Y plygain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 36:
 
===Caneuon y plygain===
{{prif|Carol plygain}}
Fel arfer mae'r caneuon Plygain mewn cynghanedd o dri neu bedwar llais, er bod unawdau a deuawdau wedi bodoli eriod. Yn wreiddiol partion o ddynion yn unig oedd yn cymryd rhan ac roedd y cantorion yn dod o'r un teulu. Roedd aelod o'r teulu'n ysgrifennu’r geiriau mewn llyfr ymarfer a ddefnyddiwyd hefyd yn y gwasanaeth gan fod cymaint o benillion! Yn aml roedd yr alwa yn cael ei benthyg oddi wrth gân gwerin poblogaidd. Fel arfer crybwyllir croeshoelio Crist yn y garol blygain. Ymhlith y beirdd enwog am ysgrifennu llawer o garolau plygain mae [[Huw Morus (Eos Ceiriog)]], [[Jonathan Huws]] a [[Walter Davies (Gwallter Mechain)]].<ref>[https://caneuongwerin.wordpress.com/2013/12/22/daeth-nadolig/ Caneuon Gwerin;] adalwyd 30 Tachwedd 2015</ref> Mae brawddegu'n bwysig ac yn aml mae'r cantorion yn dal ar rai geiriau pwysig. Cenir y caneuon i gyd yn ddigyfeiliant.