Y Fari Lwyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyfs
ehangu
Llinell 3:
 
Deillia'r hen arfer o dywys y 'Fari Lwyd' o gwmpas tai o hen ddefod a oedd unwaith yn ymwneud â [[ffrwythlondeb]], mae'n debyg. Fe'u cynhelid o noswyl y [[Nadolig]] hyd 6 Ionawr ac weithiau ar ôl hynny hyd yn oed ac roedd i'r ddefod gysylltiad arbennig â [[Nos Ystwyll]] (sef 5 Ionawr). Mae'r ffigwr hwn o ben ceffyl yn ddigon adnabyddus yn nefodau tymhorol gwledydd eraill hefyd. Ymhlith yr arferion eraill a gynhelid yr adeg hon (ond sydd, yn wahanol i ddefod y Fari Lwyd wedi diflannu o'r tir) y mae [[hela'r dryw bach]] a [[gwaseila]].
 
==Y ceffyl pantomeim==
Yn ôl rhai y Fari Lwyd Geltaidd yw tarddiad y cymeriad hanfodol hwnnw, y Ceffyl Pantomeim. Mae'n ymddangos cyn belled yn ôl â 1503 mewn drama Gernyweg, ''Beunaus Meriasek'', am fywyd [[Meiriadog (sant)|Sant Meiriadog]].<ref>[http://www.cylchgrawnbarn.com/index.php?option=com_content&view=article&id=365:y-pridd-ar-concrid-hiliaeth-cefn-gwlad&catid=34:erthyglau&Itemid=92 Gwefan Barn]; Y Pridd A'r Concrid - Hiliaeth cefn gwlad gan John Pierce Jones; adalwyd 05/01/2013</ref>
{{clirio}}
 
<gallery mode="packed" heights=250px>
Llinell 15 ⟶ 11:
 
== Cân y Fari Lwyd ==
[[Delwedd:Y Far Lwyd 444.webmsd.webm|bawd|chwith|William Morgan Rees (gweithiwr rheilffordd, g. 1883), [[Pen–y–bont ar Ogwr]], Sir Forgannwg yn canu rhan agoriadol cân y Fari Lwyd.]]
Fel rhan o ddefod y Fari Lwyd, ceir ymryson rhwng y gwaseilwyr a pherchennog y tŷ, bob yn ail, gyda chais i ddod i fewn i'r tŷ. Yn Tâp AWC 7. Recordiwyd tâp gan [[Amgueddfa Werin Cymru]] yn Hydref 1953 o William Morgan Rees (gweithiwr rheilffordd, g. 1883), Woodlands, Brynmenyn, ger [[Pen–y–bont ar Ogwr]], Sir Forgannwg yn canu rhan agoriadol yr ysmryson hwn. Hyd at tuag 1933 arferai Rees weld gwŷr yn 'canu gwaseila', gan fynd a'r Fari Lwyd allan i'ri'r gogledd ddwyrain o Ben–y–bont ([[Coety]], [[Bryncethin]], ayb).
[[Delwedd:Cerdd y Fari lwyd.PNG|bawd|canol|600px]]
 
Ceir saith bennill sy'n cynrychioli rhan agoriadol defod y Fari Lwyd, pan ganai'r parti y tu allan i'r drws gyfres o benillion traddodiadol. Yna dôi'r 'pwnco', sef y ddadl (a genid ar yr un dôn, mewn cyfuniad o benillion traddodiadol a rhai ‘difyfyr’) rhwng aelod o'r parti a gwrthwynebydd y tu arall i'r drws. Fel arfer, ceid tynnu coes yn lled galed wrth i'r naill ochr ddifrio'r llall am ei ganu 'allan o diwn', ei feddwdod, ei grintachrwydd, ayb. Disgwylid i griw'r Fari Lwyd drechu yn y ddadl cyn ennill mynediad i'r tŷ a chael yno gacenni a diod ac weithiau, rodd ariannol. Weithiau, o leiaf, wedi gorffen 'pwnco', canai'r parti benillion ychwanegol yn cyflwyno'r holl aelodau ac yr oedd hefyd gân ffarwél y gellid ei chanu ar yr aelwyd. Yn ôl pob golwg, ar [[triban|fesur triban]] ac ar dôn wahanol yr oedd y ddwy gân olaf.
 
==Y ceffyl pantomeim==
Yn ôl rhai y Fari Lwyd Geltaidd yw tarddiad y cymeriad hanfodol hwnnw, y Ceffyl Pantomeim. Mae'n ymddangos cyn belled yn ôl â 1503 mewn drama Gernyweg, ''Beunaus Meriasek'', am fywyd [[Meiriadog (sant)|Sant Meiriadog]].<ref>[http://www.cylchgrawnbarn.com/index.php?option=com_content&view=article&id=365:y-pridd-ar-concrid-hiliaeth-cefn-gwlad&catid=34:erthyglau&Itemid=92 Gwefan Barn]; Y Pridd A'r Concrid - Hiliaeth cefn gwlad gan John Pierce Jones; adalwyd 05/01/2013</ref>
 
 
==Gweler hefyd==
Llinell 35 ⟶ 37:
[[Categori:Mytholeg Gymreig]]
[[Categori:Nadolig]]
[[Categori:Ffeiliau Amgueddfa Cymru Sain Ffagan]]
 
[[pl:Konik (obrzęd)]]
[[ru:Вождение коня]]