Rhys ap Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
del cofeb
y daith drwy Bowys
Llinell 6:
Perthynai Rhys i deulu dylanwadol iawn yn [[Dyffryn Tywi|Nyffryn Tywi]]; dywedai'r teulu eu bod yn ddisgynyddion [[Urien Rheged]]. Llwyddodd ei daid, [[Gruffudd ap Nicolas]], i ennill grym dros ran helaeth o dde-orllewin Cymru. Roedd tad Rhys, [[Thomas ap Gruffudd]], yn drydydd mab Gruffudd; priododd Elizabeth ferch Syr John Gruffudd, [[Abermarlais]] (ger [[Llandeilo]]), rhywbryd cyn [[1446]].
 
===Milwr ym Maes Bosworth===
===Y daith drwy Bowys i Gefn Digoll===
[[Delwedd:Y daith drwy Gymru i Fosworth March through Wales to Bosworth using Wales relief location map 3.svg|bawd|chwith|Taith Harri Tudur (chwith) a Rhys ap Thomas (llinell werdd) drwy Gymrui [[Cefn Digoll|Gefn Digoll]].]]
Pan laniodd Harri Tudur ym mae [[Pont y Pistyll]] (ger [[Dale]]), ger [[Hwlffordd]] dewisiodd Rhys lwybr gwahanol i Harri am dri rheswm: yn gyntaf roedd yn casáu'r [[Ffrancwyr]] - a dyna oedd tros hanner byddin Harri.<ref>Cofnodwyd yn ei gofiant ''Life of Rhys ap Thomas'' a sgwennwyd tua diwedd ei oes, ei awydd barhaus i ''soundly to cudgel those French dogs''. Gweler ''Bosworth'' gan Chris Skidmore; Gwasg Phoenix; 2013; tud. 234.</ref> Yn ail, ceisiodd chwarae'r ffon ddwybig gan beri i Richard III gredu ei fod o'i blaid, ac felly nid ymosododd Richard ar unwaith gan ei fod yn teimlo'n saff. Yn drydydd, rhoddodd ei hun a'i fyddin o tua dwy fil a hanner o filwyr profiadol, arfog rhwng Harri a Richard. Roedd hyn hefyd yn golygu ei fod ef ar lwybr gwahanol yn casglu milwyr ato, o gymunedau gwahanol i Harri. Roedd Arnold Butler, Gruffydd Rede a John Morgan, cyfeillion pennaf Rhys yn cyd-deithio â Harri, ac yn ddolenau cryfion rhwng y ddau arweinydd, y dwy fyddin.
 
 
===Maes Bosworth===
Erbyn i [[Harri Tudur]] lanio yn [[Sir Benfro]] yn Awst [[1485]] roedd Rhys mewn sefyllfa gref yn ne Cymru, a chododd fyddin o tua 2,000 o wŷr i gefnogi ymgais Harri i gipio coron Lloegr. Cyfarfu Rhys a'i ddynion ('Gwŷr y Wlad Ucha') Harri Tudur yng [[Cefn Digoll|Nghefn Digoll]] ger [[y Trallwng]] ac aeth y ddau garfan yn ei blaenau drwy'r [[Amwythig]], Stafford, [[Lichfield]] ac yna [[Market Bosworth|Bosworth]] gan gyrraedd ar ddydd Sul y 21ain o Awst.