Owain Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Dolenni allanol: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Llinell 22:
=== Gwyddonydd ===
Roedd yn wyddonydd niwclear yn y [[1950au|50au]], a bathodd nifer o dermau gwyddonol megis 'Gwennol y Gofod', a chysyniadau a bathiadau gwleidyddol eraill megis '[[Gwledydd Prydain]]' yn hytrach na 'Phrydain'. Roedd yn golofnydd 'Nodion Gwyddonol' ''[[Y Cymro]]'' am flynyddoedd gan ysgrifennu'n helaeth yn erbyn gorsafoedd niwclear. Yng Ngorffennaf 1969, fe ysgrifennodd yn Y Cymro: ''Yn syml, mae'r [cyfrifiadur] yn ei gwneud hi'n bosibl cofnodi'r cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy'r oesau mewn un lle, mewn modd sy'n galluogi unrhyw unigolyn - o'i gartref ei hun er enghraifft - archebu a derbyn unrhyw ran o'r wybodaeth honno... 'Beth fydd effaith hyn i gyd ar fyd addysg, dyweder yn 2000 O.C.? Yn gyntaf, fe fydd addysgu'r dechneg o ddefnyddio cyfundrefn o gyfrifyddion yn bwysicach - yn llawer pwysicach - na chael plant i gofio rhestri di-bendraw o ffeithiau; y cyfrifydd bellach fydd y "cof". Yn ail, fe welir doethineb y gogwydd diweddaraf i wneud addysg yn rhywbeth sy'n codi o brofiad, gyda'r disgybl, yn hytrach na'r athro yn bwynt canolig. Ac yn drydydd fe fydd athrawon y flwyddyn 2000 yn cael eu dyrchafu o fod yn gyflenwyr ffeithiau i fod yn dywyswyr - yn tywys y disgyblion i gyfeiriad y profiadau gwerthfawr a chyfoethog hynny sy'n gyfystyr a gwir addysg.''<ref>[http://www.owainowain.net/ygwyddonydd/nodiongwyddonol/nodiongwyddonol.htm owainowain.net; adalwyd 14 Rhagfyr 2011.]</ref>
 
Mynegodd [[Dafydd Iwan]] yn ei gyfrol ''[[Pobol Dafydd Iwan]]'', [[Gwasg y Lolfa]] (2015) (tudalen 125) 'Roedd hefyd yn un o'r addysgwyr cyntaf i weld pwysigrwydd y cyfrifiadur, a rhagwelai yn niwedd y 60au y byddai'r cyfrifiadur yn ffynhonnell ddihysbydd o wybodaeth yn y dyfodol, ac yn offeryn canolog ym myd addysg, gyda'r athro'n 'dywysydd' a'r plentyn yn gwneud ei ymchwil ei hun.' Hyd at y 2000au, cofio ffeithiau oedd yr offeryn canolog a ddefnyddiwyd ers canrifoedd.
 
===Gwaith===