Ukiyo-e: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Cysylltiadau allanol: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Link FA|fr}} using AWB
sangiad
Llinell 2:
Golygfa o Fynydd [[Fuji]] o [[Numazu]] (rhan o'r gyfres ''Pumdeg tri gwersyll y Tokaido'' gan [[Hiroshige]], gyhoeddwyd [[1850]])]]
 
Mae '''Ukiyo-e''' ([[Siapaneg]] 浮世絵), sef "lluniau o'r byd cyfnewidiol", yn ''genre'' o brintiau bloc pren a lluniau [[Nikuhitsuga]] a gynhyrchid yn [[Japan|Siapan]] o'r [[17fed ganrif]] hyd ddechrau'r [[20fed ganrif]], sy'n cynnwys golygfeydd o fyd y theatr a'r ardaloedd adloniant poblogaidd yn nhrefi Siapan ac, yn ddiweddarach, tirluniaudirluniau rhamantaidd.
 
Cyfeiria'r enw ''Ukiyo'', sy'n golygu "y byd cyfnewidiol", neu yn fwy llythrennol "y byd sy'n arnofio", ar wyneb realiti fel petai, am nad yw'n parhau, neu "y pasiant sy'n mynd heibio", at y diwylliant ifanc newydd a flodeuai yn y trefi mawr fel [[Edo]] ([[Tokyo]] heddiw), [[Osaka]], a [[Kyoto]], a oedd yn fyd ar wahân yng nghymdeithas Siapan. Yn ogystal mae'n swnio'n union fel y gair ''ukio'' "Byd Trallod, Byd Trist" (憂き世), term a ddefnyddir gan [[Bwdhiaeth|Fwdhiaid]] Siapan i ddynodi'r byd daearol sy'n ynghlwm wrth eni a marwolaeth ac yn rhwystr i [[Goleuedigaeth|Oleuedigaeth]].