Kenneth Waltz: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ysgolhaig [[cysylltiadau rhyngwladol]] o [[Unol Daleithiau|Americanwr]] sy'n gysylltiedig â damcaniaeth [[neo-realaeth (damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol)|neo-realaeth]] oedd '''Kenneth Neal Waltz''' ([[8 Mehefin]] [[1924]] –12– [[12 Mai]] [[2013]]).<ref name=NYT>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.nytimes.com/2013/05/19/us/kenneth-n-waltz-who-helped-shape-international-relations-as-a-discipline-dies-at-88.html?pagewanted=all&_r=0 |teitl=Kenneth Waltz, Foreign-Relations Expert, Dies at 88 |gwaith=[[The New York Times]] |awdur=Martin, Douglas |dyddiad=18 Mai 2013 |dyddiadcyrchiad=22 Gorffennaf 2013 }}</ref><ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://articles.washingtonpost.com/2013-05-21/national/39416919_1_nuclear-weapons-waltz-korean-war |teitl=Kenneth N. Waltz, scholar of international relations, dies at 88 |gwaith=[[The Washington Post]] |awdur=Langer, Emily |dyddiad=21 Mai 2013 |dyddiadcyrchiad=22 Gorffennaf 2013 }}</ref> Roedd yn athro ym [[Prifysgol Columbia|Mhrifysgol Columbia]]. Ei lyfr enwocaf yw ''[[Man, the State, and War]]'' (1959) a gyflwynodd y cysyniad o [[lefelau dadansoddi]] i faes cysylltiadau rhyngwladol. Bathwyd y term "lefelau dadansoddi" gan [[J. David Singer]] yn ei adolygiad o'r llyfr yn y cyfnodolyn ''[[World Politics]]'' yn Ebrill 1960. Disgrifiodd Waltz tair delwedd wrth geisio esbonio achosion [[rhyfel]]: yr unigolyn, lle bo [[natur ddynol]] yn achosi rhyfel; y wladwriaeth, lle bo systemau llywodraethol neu sefyllfaoedd gwleidyddol o fath arbennig yn achosi rhyfel; a'r system ryngwladol, lle bo [[cysylltiadau rhyngwladol#Anllywodraeth|anllywodraeth]] yn gwneud rhyfel yn sefydliad cymdeithasol anochel.
 
Ysgrifennodd hefyd ''Theory of International Politics'' (1979) gan ymhelaethu ar y syniad o [[Pegynedd yng nghysylltiadau rhyngwladol|fyd deubegynol]] gyda dau brif rym, sef [[yr Unol Daleithiau]] a'r [[Undeb Sofietaidd]] yn ystod [[y Rhyfel Oer]]. Ym 1995 cyhoeddwyd ''The Spread of Nuclear Weapons: A Debate'', sef trafodaeth am [[arf niwclear|arfau niwclear]] rhwng Waltz a'r Athro [[Scott Sagan]] o [[Prifysgol Stanford|Brifysgol Stanford]].