Laurence Olivier: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cywiro
BDim crynodeb golygu
Llinell 12:
}}
 
[[Actor]], cyfarwyddwr a chynhyrchydd Seisnig oedd '''Laurence Kerr Olivier''' [[OM]], hefyd [[Marchog Baglor]] a Barwn Olivier ([[22 Mai]] [[1907]][[11 Gorffennaf]] [[1989]]), a enillodd nifer o wobrau am ei waith. Roedd yn un o actorion enwocaf ac uchaf ei barch yn yr ugeinfed ganrif, ynghyd â'i gyfoedion [[John Gielgud]], [[Peggy Ashcroft]] a [[Ralph Richardson]]. Chwaraeodd Olivier ystod o rôlau amrywiol ar lwyfan ac ar y sgrîn fawr, gan amrywio o drasiediau Groegaidd, [[Shakespeare]] i gomedïau Prydeinig ac Americanaidd.
 
Ef oedd cyfarwyddwr creadigol Theatr Genedlaethol y Deyrnas Unedig ac enwyd y prif lwyfan ar ei ôl. Caiff ei ystyried gan nifer fel actor gorau yr ugeinfed ganrif. Derbyniodd Olivier bedair ar ddeg enwebiad am [[Oscar]] gan ennill dwy ohonynt am yr Actor Gorau a'r Ffilm Orau am ''Hamlet'', a dwy wobr anrhydeddus gan gynnwys cerflun a thystysgrif. Enillodd bum Gwobr [[Emmy]] hefyd o'r naw y cafodd ei enwebu ar eu cyfer. Hefyd enillodd dair [[Golden Globe]] a [[BAFTA]].