Joan Miró: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Dolenni allanol: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 10:
}}
 
Artist o [[Catalwnia|Gatalaniad]] oedd '''Joan Miró i Ferrà''' ([[20 Ebrill]] [[1893]] – [[25 Rhagfyr]] [[1983]]). Caiff ei ystyried yn ffigwr blaenllaw mewn [[Swrealaeth]], er iddo erioed fod yn aelod swyddogol o'r symudiad hynny. Bu'n ddylanwadol iawn ar gyfeiriad celf haniaethol yng nghanol yr ugeinfed ganrif, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau.<ref name="Grove">{{dyf gwe|url=http://www.oxfordartonline.com/subscriber/article/grove/art/T058573?q=Joan+Miro&search=quick&pos=1&_start=1#firsthit|teitl=Miró, Joan|cyfenw=Corredor-Matheos|enwcyntaf=José|gwaith=Grove Art Online|cyhoeddwr=Gwasg Prifysgol Rhydychen|dyddiadcyrchiad=10 Mai 2014|iaith=en}}</ref>
 
==Bywyd==
Llinell 22:
Ym 1929 priododd Miró ei gyfnither, Pilar Juncosa. O hyn ymlaen teimlodd yn fwy hyderus i fod yn radical yn ei waith, gan gyhoeddi ei fod am "lofruddio" confensiynau peintio. Dechreuodd greu ''collages'' mewn deunyddiau anarferol megis pren a metel. Daeth ei waith yn fwyfwy ymosodol ym mlynyddoedd [[Rhyfel Cartref Sbaen]].<ref name="Grove"/> Creodd y murlun ''El segador (Payés catalán en rebeldía)'' ("Y cynaeafwr (Gwerinwr Catalwnaidd mewn gwrthryfel)") ar gyfer Pafiliwn Sbaen yn Arddangosfa Ryngwladol Paris ym 1937, yn yr un adeilad lle arddangoswyd campwaith [[Pablo Picasso]], ''Guernica''. Yn y pafiliwn roedd poster gan Miró ar werth o'r enw ''Aidez l'Espagne'' ("Helpiwch Sbaen"), â llun o Gatalaniad â'i ddwrn yn yr awyr.<ref>{{cite book|editor=Borja-Villel, Manuel J. et al.|title=The Collection: Museo Nacional Centro de Arte Reina Sofía – Keys to a Reading (Part I)|year=2010|location=Madrid|publisher=Ediciones de La Central|page=169}}</ref>
 
Ym 1939 symudodd Miró i fyw yn Varengeville, pentref bychan yn [[Normandi]], lle parhaodd i greu peintiadau a oedd yn crynhoi atgofion o blentyndod a chefn gwlad Montroig. Dychwelodd i Sbaen yn y flwyddyn olynol, pan ddechreuodd weithio â serameg.<ref name="Hopkins">{{dyf gwe|url=http://www.oxfordartonline.com/subscriber/article/opr/t118/e1759?q=Joan+Miro&search=quick&pos=2&_start=1#firsthit|teitl=Miró, Joan|cyfenw=Hopkins|enwcyntaf=Justine|gwaith=The Oxford Companion to Western Art|cyhoeddwr=Gwasg Prifysgol Rhydychen|dyddiadcyrchiad=10 Mai 2014|iaith=en}}</ref> O 1940 i 1941 creodd gyfres o weithiau o'r enw ''Constellaciones'' ("Cytserau") a chaiff eu hystyried ymhlith ei weithiau pwysicaf. Yn 1941 cynhaliwyd arddangosfa fawr o'i waith yn [[Amgueddfa Gelf Fodern (Efrog Newydd)|Amgueddfa Gelf Fodern]] [[Efrog Newydd]], a chwaraeodd hyn ran bwysig mewn sefydlu ei enw tu allan i Ewrop.<ref name="Grove"/> Cafodd sawl comisiwn cyhoeddus yn ei yrfa hwyr, gan gynnwys y murluniau serameg ''Mur du soleil'' ("Mur(lun) yr haul") a ''Mur de la lune'' ("Mur(lun) y lleuad"; 1956) ar gyfer pencadlys [[UNESCO]] ym Mharis.<ref name="Hopkins"/> Cynlluniodd hefyd [[tapestri|dapestri]] ar gyfer [[Canolfan Masnach y Byd]] yn Efrog Newydd pan agorodd hynny ym 1974; dyma oedd un o'r gweithiau celf mwyaf gwerthfawr i gael ei ddinistrio yn [[ymosodiadau 11 Medi 2001]].<ref>{{dyf gwe|url=http://www.ifar.org/nineeleven/911_public2.htm|url=http://www.ifar.org/nineeleven/911_public2.htm|cyfenw=Wenegrat|enwcyntaf=Saul|teitl=Public Art at the World Trade Center|cyhoeddwr=International Foundation for Art Research|dyddiad=28 Chwefror 2002|dyddiadcyrchiad=10 Mai 2014|iaith=en}}</ref>
 
Sefydlwyd amgueddfa o'i waith, y Fundació Joan Miró, yn Barcelona ym 1975, mewn adeilad a'i gynlluniwyd gan ei ffrind Josep Lluís Sert a gyda chasgliad o beintiadau, cerfluniau a phrintiau a'u rhoddwyd gan yr artist ei hun. Bu farw Miró yn [[Palma de Mallorca]] ym 1983, ac ym 1992 sefydlwyd Fundació Pilar i Joan Miró yn ei hen stiwdio yno.<ref name="Grove"/>