Mohammad Reza Pahlavi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Mohammad Reza Pahlavi.jpg|bawd|Mohammad Reza Shah Pahlavi]]
[[Shah]] neu frenin olaf [[Iran]] oedd '''Mohammad Rezā Shāh Pahlavi''' ([[Perseg]]: محمدرضاشاه پهلوی, [[IPA]]: {{IPA|[mohæmˈmæd reˈzɒː ˈʃɒːhe pæhlæˈviː]|}}; [[26 Hydref]] [[1919]][[27 Gorffennaf]] [[1980]]) a reolodd y wlad o 16 Medi 1941 hyd ei ddymchweliad yn [[Chwyldro Islamaidd Iran]] ar 11 Chwefror 1979. Ef oedd yr ail frenin yn y [[brenhinllin Pahlavi|frenhinllin Pahlavi]]. Ymysg ei deitlau oedd Ei Fawrhydi Imperialaidd, Shahanshah (Brenin Brenhinoedd,<ref>D. N. MacKenzie. A Concise Pahlavi Dictionary. Routledge Curzon, 2005.</ref> Ymerawdwr), [[Aryamehr]] (Golau'r [[Ariaid]]), a Bozorg Arteshtārān (Pennaeth y Rhyfelwyr,<ref>M. Mo'in. An Intermediate Persian Dictionary. Six Volumes. Amir Kabir Publications, 1992.</ref> [[Perseg]]: بزرگ ارتشتاران).
 
Daeth Mohammad Reza i rym yn ystod [[yr Ail Ryfel Byd]] wedi i [[goresgyniad Iran gan Brydain a'r Undeb Sofietaidd|oresgyniad Iran gan Brydain a'r Undeb Sofietaidd]] orfodi ei dad, [[Reza Shah]], i [[ymddiorseddi]]. Yn ystod ei deyrnasiad, cafodd diwydiant olew Iran ei [[gwladoli|wladoli]] dan y Prif Weinidog [[Mohammad Mosaddegh]], a nodwyd 2,500 mlynedd ers sefydlu [[Ymerodraeth Persia]] gan [[Cyrus Fawr]] a phen-blwydd y frenhiniaeth. Llwyddodd diwygiadau economaidd a chymdeithasol y [[Chwyldro Gwyn]], a fwriadwyd gan y Shah i droi Iran yn bŵer mawr ar y lwyfan ryngwladol, i foderneiddio'r wlad trwy wladoli nifer o adnoddau naturiol a rhoi'r bleidlais i fenywod.