Juan Perón: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Juan Peron con banda de presidente.jpg|bawd|220px|Juan Perón]]
 
Etholwyd '''Juan Domingo Perón''' ([[8 Hydref]] [[1895]] – [[1 Gorffennaf]] [[1974]]) yn [[Arlywyddion yr Ariannin|Arlywydd yr Ariannin]] dair gwaith. Ef oedd sylfaenydd [[Peroniaeth]] a'r blaid sy'n arddel yr ideoleg honno, y [[Partido Justicialista]].
 
Ganed Perón yn [[Lobos]], [[Talaith Buenos Aires]]. Addysgwyd ef yn ninas [[Buenos Aires]], ac aeth i'r Coleg Milwrol yn [[1910]], gan raddio yn [[1916]]. Ei wraig gyntaf oedd Aurelia Tizón, a fu farw o gancr. Ail-briododd a'r actores [[Eva Perón|María Eva Duarte]] ([[1919]] – [[1952]]) ar [[22 Hydref]] [[1945]]. Roedd ''[[Evita]]'' fel y gelwid Eva Perón yn cydweithio'n agos a'i gŵr yn wleidyddol, ac yn gefnogol i hawliau i ferched a diwygiadau poblogaidd o blaid y werin. Oherwydd hynny a'i gwaith elusennol câi ei haddoli gan y tlodion yn ystod ei hoes fer. Gweithiai'n galed o blaid rhoi'r hawl i bleidleisio i ferched. Sefydlodd Sefydliad Eva Perón er mwyn hyrwyddo lles cymdeithasol yn y wlad.