Glyn Simon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''William Glyn Hughes Simon, DD''' ([[14 Ebrill]] [[1903]]- – [[14 Gorffennaf]] [[1972]]) yn [[Archesgob Cymru]] o [[1968]] hyd [[1971]].
 
Addysgwyd ef yng [[Coleg Crist, Aberhonddu|Ngholeg Crist, Aberhonddu]] o [[1913]] ymlaen, ac aeth i [[Coleg Iesu, Rhydychen|Goleg Iesu, Rhydychen]] yn [[1922]]. Daeth yn Warden [[Coleg Sant Mihangel, Llandaf]]; roedd y bardd [[R. S. Thomas]] yn fyfyriwr yno yr un adeg. Fel Deon Llandaf, ef oedd yn bennaf gyfrifol am atgyweirio'r [[Eglwys Gadeiriol]] wedi iddi gael ei difrodi yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn cynnwys comisynu cerflun enwog Epstein, ''Majestas''. Daeth yn [[Esgob Abertawe ac Aberhonddu]], gan ddod yn gefnogwr i'r iaith Gymraeg yn y cyfnod yma, yna'n [[Esgob Llandaf]], lle cefnogodd ordeinio merched yn ddiaconiaid.