Enid Blyton: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:200px-Enid-blyton-newspaper.jpg|bawd|dde|'''Enid Blyton''']]
Roedd Enid Mary Blyton ([[11 Awst]] [[1897]] – [[28 Tachwedd]] [[1968]]) yn un o awduron llyfrau i blant mwyaf llwyddiannus y [[Deyrnas Unedig]]. Cawsai ei hadnabod fel Enid Blyton ac fel Mary Pollock. Cafodd ei disgrifio unwaith fel "one-woman fiction machine", ac mae'n enwog am ei nifer o gyfresi o lyfrau yn seiliedig ar yr un criw o gymeriadau. Cafodd Blyton lwyddiant mawr ledled y byd, a gwerthodd 400 miliwn o gopïau. Blyton yw'r chweched awdur mwyaf poblogaidd ledled y byd erios; yn ôl Translationum Mynegai UNESCO, roedd 3400 o gyfeithiadau o'i llyfrau ar gael yn 2007. Mae ei gwerthiant tu ôl [[Lenin]] a [[Shakespeare]].
 
Un o'i chymeriadau amlycaf oedd [[Noddy]], a grëwyd ar gyfer plant a oedd yn dysgu i ddarllen. Fodd bynnag, ei chryfder pennaf oedd nofelau ar gyfer darllenwyr ifanc, lle gallai plant ddarllen am yr anturiaethau heb lawer o gymorth wrth oedolion. Y cyfresi mwyaf llwyddiannus yn y genre hwn oedd ''[[The Famous Five]]'' (21 nofel rhwng [[1942]]-[[1963]], a soniai am bedwar o blant a'u ci), y ''[[Five Find-Outers and Dog]]'', (15 nofel, [[1943]]-[[1961]], lle byddai pump o blant yn achub y blaen ar yr heddlu) yn ogystal â ''[[The Secret Seven]]'' (15 nofel, [[1949]] – [[1963]], cymdeithas o saith o blant a oedd yn datrys amrywiaeth o ddirgelion). Mae ei gwaith yn cynnwys storïau antur, ffantasi ac weithiau hud a lledrith. Roedd ei llyfrau yn hynod boblogaidd ym [[Prydain|Mhrydain]], [[Malta]], [[India]], [[Pacistan]], [[Seland Newydd]], [[Sri Lanka]], [[Singapore]] ac [[Awstralia]]; mae ganddi gyfeithiadau yn yr hen [[Iwgoslafia]], [[Siapan]] a ledled y byd. Cyfieithwyd ei gwaith i bron 90 o ieithoedd.