Charles Alfred Bell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
:''Erthygl am y Tibetolegwr yw hon. Am yr anatomegydd gweler [[Charles Bell]].''
[[Image:CharlesAlfredBell.jpg|bawd|77px|Charles A. Bell]]
[[Tibetoleg]]wr Eingl-Indiaidd a aned yn [[Calcutta]] oedd '''Syr Charles Alfred Bell''' ([[31 Hydref]] [[1870]] – [[8 Mawrth]] [[1945]]). Cafodd yrfa hir fel swyddog gwleidyddol ac ysgrifennodd sawl cyfrol ar hanes, iaith, a diwylliant [[Tibet]].
 
Astudiodd Bell yng [[Coleg Winchester|Ngholeg]] [[Winchester]], Lloegr. Ar ôl ymuno â Gwasanaeth Sifil India cafodd ei apwyntio yn Swyddog Gwleidyddol yn [[Sikkim]] yn 1908. Daeth yn ffigwr amlwg a dylanwadol yng ngwleidyddiaeth Sikkim a [[Bhwtan]], ac yn 1910 cyfarfu a'r [[13eg Dalai Lama]], a oedd wedi ffoi i alltudiaeth dros dro yn India ar ôl i [[Tsieina]] ymyryd yn Nhibet. Daeth i adnabod y [[Dalai Lama]] yn weddol dda ac yn nes ymlaen ysgrifennodd ei fywgraffiad (''Portrait of a Dalai Lama'', cyhoeddwyd yn 1946).