Dafydd Jones o Gaeo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Gweler hefyd: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Bardd ac [[emyn]]ydd [[Cymraeg]] oedd '''Dafydd Jones''' ([[1711]] - [[30 Awst]] [[1777]]), sef '''Dafydd Jones o Gaeo'''.
 
Yn enedigol o Gwmgogerddan, [[Caeo]], [[Sir Gaerfyrddin]], roedd yn [[Porthmon|borthmon]] wrth ei alwedigaeth. Hoffai farddoni yn null y [[beirdd gwlad]] cyn cael troedigaeth yng nghapel Troed-rhiw-dalar ar ei ffordd adref, a dod yn Gristion argyhoedddig. Cynhwysodd [[William Williams Pantycelyn]] un o'i emynau yn ei gyfrol ''Aleluia'' (1747). Trosodd nifer o salmau'r emynydd Seisnig [[Isaac Watts]] i'r Gymraeg a chyhoeddodd dair cyfrol o'i emynau ei hun yn ogystal. Fe'i claddwyd yng [[Crug-y-bar|Nghrug-y-bar]].