Vitus Bering: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:VitusBering.jpg|right|thumb|150px|Darlun o Vitus Bering (neu efallai o'i ewythr)]]
 
Roedd '''Vitus Jonassen Bering''', weithiau ''Behring'', (bedyddiwyd [[5 Awst]] [[1681]]-[[19 Rhagfyr]], [[1741]]) yn forwr a fforiwr [[Denmarc|Danaidd]] yn llynges [[Rwsia]], a adnabyddid gan y morwyr Rwsaidd fel '''Ivan Ivanovich'''. Ganed Bering yn [[Horsens]], [[Denmarc]] a bu farw ar [[Ynys Bering]], ger [[Gorynys Kamchatka]].
 
Wedi mordaith i India'r Dwyrain, ymunodd a'r llynges Rwsaidd yn [[1703]]. Priododd wraig o Rwsia, ac wedi ymweliad byr â Horsens yn [[1715]] ni ddychwelodd yno wedyn. Yn [[1725]], teithiodd ar dir i [[Okhotsk]], croesodd i Kamchatka, ac adeiladodd y llong ''Sviatoi Gavriil'' (''[[Gabriel|Sant Gabriel]]''). Ar y llong yma, hwyliodd Bering tua'r gogledd yn [[1728]], hyd na allai weld rhagor o dir tua'r gogledd na'r dwyrain.