Inigo Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Oriel: sillafu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:PortraitInigoJones.jpg|bawd|dde|Portread o Inigo Jones gan [[William Hogarth]], ar ôl gwaith gan [[Antoon van Dyck]]]]
 
[[Pensaer]] [[Saeson|Seisnig]] o dras [[Cymry|Gymreig]] oedd '''Inigo Jones''' ([[15 Gorffennaf]] [[1573]] [[21 Mehefin]] [[1652]]). Ef sydd yn bennaf gyfrifol am gyflwyno'r [[Pensaernïaeth glasurol|arddull glasurol]] i bensaernïaeth ym Mhrydain.
 
Ganwyd Inigo Jones yn [[Smithfield]], [[Llundain]], yn fab i weithiwr brethyn Cymreig a oedd hefyd yn dwyn yr enw anghyffredin 'Inigo'. Ar daith i'r [[Yr Eidal|Eidal]] ym 1613 daeth yn ymwybodol o adeiladau [[Andrea Palladio]] yn y [[Veneto]] a'i ysgrifau ar bensaernïaeth. Bu'r rhain, ynghŷd â gwaith yr awdur a phensaer Rhufeinig [[Vitruvius]], yn ysbrydoliaeth mawr iddo. O 1615 hyd 1642 bu Inigo yn bensaer i'r llys brenhinol (''Surveyor of the King's Works''), yn gwasanaethu'r brenhinoedd [[Iago I/VI o Loegr a'r Alban|Iago I]] a [[Siarl I o Loegr a'r Alban|Siarl I]]. Yn y cyfnod yma cynlluniodd Tŷ'r Frenhines yn [[Greenwich]], yr adeilad glasurol gyntaf ym Mhrydain, a'r Tŷ Gwledda ym [[Palas Whitehall|Mhalas Whitehall]]. Hefyd, ef oedd y pensaer a gynlluniodd [[Covent Garden Piazza]], y sgwâr ffurfiol cyntaf yn Llundain.