Phylip Siôn Phylip: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Bywgraffiad: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
teulu
Llinell 4:
Roedd yn un o'r teulu o feirdd o Ardudwy yn yr [[16eg ganrif]] a'r [[17eg ganrif|ganrif olynnol]] a adnabyddir fel [[Phylipiaid Ardudwy]]. Roeddent yn ddisgynyddion i ymsefydlwyr [[Norman]]aidd yn yr ardal yn y 12fed ganrif ond cawsont eu cymathu i'r gymdeithas Gymreig o'u cwmpas. Mae'r Phylipiaid yn cynrychioli to olaf [[Beirdd yr Uchelwyr]], y beirdd proffesiynol a ganai i uchelwyr [[Cymru]] yn yr [[Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru|Oesoedd Canol Diweddar]] a dechrau'r [[Cyfnod Modern]]. Arferent fynd ar deithiau [[clera]] gan ymweld ac aelwydau mawr [[gogledd Cymru]]. Mae eu gwaith yn ddrych i gymdeithas y cyfnod a'r newidiadau a welwyd.
 
==Phylipiaid Ardudwy==
Roedd Phylip Siôn yn fab i'r bardd [[Siôn Phylip]] ac yn frawd i fardd arall yn y teulu, sef [[Gruffudd Phylip]], a ystyrir yn un o'r clerwyr olaf. Ymddengys nad oedd Phylip Siôn yn arfer [[clera]] fel ei frawd a'i dad, ond cafodd ei addysgu yn y traddodiad barddol gan ei dad. Dim ond pedawr o'i gerddi sydd ar glawr heddiw, yn cynnwys [[cywydd]] [[marwnad]] i Morys Wyn (Maurice Wynne) o'r Glyn (Hydref, 1673).
{{prif|Phylipiaid Ardudwy}}
Roedd Phylip Siôn yn fab i'r bardd [[Siôn Phylip]] ac yn frawd i fardd arall yn y teulu, sef [[Gruffudd Phylip]], a ystyrir yn un o'r clerwyr olaf. Ymddengys nad oedd Phylip Siôn yn arfer [[clera]] fel ei frawd a'i dad, ond cafodd ei addysgu yn y traddodiad barddol gan ei dad. Dim ond pedawr o'i gerddi sydd ar glawr heddiw, yn cynnwys [[cywydd]] [[marwnad]] i Morys Wyn (Maurice Wynne) o'r Glyn (Hydref, 1673). Roedd cyfnod blodeuo'r teulu'n ymestyn o 1543, dyddiad geni Siôn Phylip, hyd at 1678, sef y flwyddyn y profwyd ewyllys Phylip Siôn Phylip ei fab.
 
Redd y brodyr Siôn a Rhisiart, a'r brodyr Gruffydd a Phylip Siôn, yn canu yn y mesurau caeth, gan mwyaf. Gwyddem hefyd drwy eu canu mai clerigwyr oedd Siôn, Rhisiart a Gruffydd. Yn y mesurau rhydd y canodd William Phylip gan mwyaf, ac nid oedd yn clera. Canodd Siôn, a'i fab Gruffydd ar ei ôl, lawer i Fychaniaid [[Corsygedol]], ac yr oedd Rhisiart yn fardd teulu Fychaniaid [[Nannau]]. Ond nid i deuluoedd [[Sir Feirionnydd]] yn unig y canai'r tri bardd. Bu i bob un o'r tri athro barddol a ‘graddiodd’ Siôn yn ail eisteddfod Caerwys, 1568; yr oeddent hefyd yn achyddwyr da. Yr oeddynt ymhlith y clerwyr diwethaf yng Nghymru a phan fu Gruffydd farw yn 1666 fe'i galwyd ‘y diweddaf o'r hen feirdd.’
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
*Phylipiaid Ardudwy: erthygl gan William Llewelyn Davies yn y [http://yba.llgc.org.uk/cy/c-PHYL-ARD-1550.html Bywgraffiadur Cymreig arlein (LlGC)].
{{Beirdd yr Uchelwyr}}