Rhys ap Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
marw ayb
Llinell 15:
===Y daith drwy Bowys i Gefn Digoll===
[[Delwedd:Y daith drwy Gymru i Fosworth March through Wales to Bosworth using Wales relief location map 3.svg|bawd|chwith|400px|Taith Harri Tudur (chwith) a Rhys ap Thomas (llinell werdd) drwy Gymrui [[Cefn Digoll|Gefn Digoll]].]]
Pan laniodd Harri Tudur ym mae [[Pont y Pistyll]] (ger [[Dale]]), ger [[Hwlffordd]] dewisiodd Rhys lwybr gwahanol i Harri am dri rheswm: yn gyntaf roedd yn casáu'r [[Ffrancwyr]] - a dyna oedd tros hanner byddin Harri.<ref>Cofnodwyd yn ei gofiant ''Life of Rhys ap Thomas'' a sgwennwyd tua diwedd ei oes, ei awydd barhaus i ''soundly to cudgel those French dogs''. Gweler ''Bosworth'' gan Chris Skidmore; Gwasg Phoenix; 2013; tud. 234.</ref> Yn ail, ceisiodd chwarae'r ffon ddwybig gan beri i Richard III gredu ei fod o'i blaid, ac felly nid ymosododd Richard ar unwaith gan ei fod yn teimlo'n saff. Yn drydydd, rhoddodd ei hun a'i fyddin o tua dwy fil a hanner o filwyr profiadol, arfog rhwng Harri a Richard. Roedd hyn hefyd yn golygu ei fod ef ar lwybr gwahanol yn casglu milwyr ato, o gymunedau gwahanol i Harri. Roedd Arnold Butler, Gruffydd Rede a John Morgan, cyfeillion pennaf Rhys yn cyd-deithio â Harri, ac yn ddolenau cryfion rhwng y ddau arweinydd, y dwy fyddin. Ceir cefnogaeth i hyn gan gofnod o ymateb Richard III pan glywodd fod Harri wedi glanio ym [[PnefroPenfro|Mhenfro]]: 'ychydig o ddynion sydd ganddo, a drwg fydd ei dynged: naill ai ymladd yn erbyn ei ewyllus neu ei gymryd yn garcharor gan Walter Herbert a Richard Thomas.' Yn ôl ''The Life of rhys thomas'' cymerodd Rhys lwybr gwahanol i Harri 'er mwyn cryfhau ei fyddin... a hysbysu'r Cymry wrth fynd ei fod yn bleidiol i Harri'.<ref>Gweler ''Bosworth'' gan Chris Skidmore; Gwasg Phoenix; 2013; tud. 253.</ref>
 
O Gaerfyrddin y cychwynodd Rhys, ar yr 8fed o Awst, ac erbyn iddo gyrraedd [[Aberhonddu]] deuddydd yn ddiweddarach roedd ganddo fyddin mor fawr (a oedd yn cynnwys plant a merched) bu'n rhaid eu chwynu i lawr i ddwy fil, a 500 arall dan ofal ei frodyr Dafydd a John, a'i unig fab Gruffudd Rhys, oedd yn eu dilyn oddeut deg milltir wrth eu sodlau, yn gwarchod eu cefnau. Pan ddychwelodd sgowtiaid Harri'n ôl ar y dydd hwn (yr 8fed o Awst) mynegwyd iddo fod gan Rhys fyddin gryfach nag oedd ganddo ef. Ym [[Machynlleth]], cyn brifddinas Cymru, a thref a oedd yn orlawn o weledigaeth Gymreig, danfonodd Harri lythyr at Rhys yn cynnig iddo fod yn 'Rheolwr' neu'n 'Siambrlen' Cymru gyfan pe bae'n fuddugoliaethus.
Llinell 38:
Mae cerddi iddo gan nifer o feirdd y cyfnod, yn cynnwys [[Lewys Glyn Cothi]], [[Dafydd Nanmor]], [[Huw Cae Llwyd]] a [[Tudur Aled]]. Ceir tystiolaeth yn y cerddi hyn mai ef a laddodd [[Rhisiart III, brenin Lloegr]] ym Mrwydr Bosworth. Roedd [[Rhys Nanmor]] yn dardd teulu iddo.
 
==YWedi diweddBosworth==
Yn ogystal a'i wneud yn Farchod anrhydeddwyd Rhys gan nifer o swyddi gan gynnwys ei wneud yn Rheolwr Cymru, yn Gyfrin Gynghorwr ac yn 1505 yn Farchog y Gardas Aur a chafwyd dathliadau enfawr yng [[Castell Caeriw|Nghastell Caeriw]]. Yn dilyn marwolaeth Harri'r VII bu Rhys yn driw i'w fab gan ymladd gydag ef ym mrwydr Guinegatte yn 1513.
Dienyddwyd Syr Rhys yn 1525 ar orchymyn [[Harri VIII, brenin Lloegr|Harri VIII]] ar y cyhuddiad - di-sail mae'n debyg - ei fod yn cynllwynio yn erbyn y Goron. Cafodd ei gladdu mewn beddrod ym [[Priordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog|Mhriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog]] yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]]; ar ôl [[diddymu'r mynachlogydd]] cafodd ei symud i Eglwys Sant Pedr lle mae i'w weld heddiw. Dienyddwyd ef ar sail tystiolaeth digon tila ac aeth ei diroedd ([[Brycheiniog]] a [[Casnewydd|Chasnewydd]]) i'w ŵyr [[Rhys ap Gruffudd]]. Rhoddwyd y rhan fwyaf o'i swyddi, fodd bynnag, i [[Walter Devereux]] sef Stiward Mari Tudur.
 
Priododd ddwywaith: Efa oedd ei wraig gyntaf, merch Henri ap Gwilym o Gwrt Henri; ac eilwaith i Sioned (Janet), merch Thomas Mathew o Radyr, sef gweddw Thomas Stradling o [[Sain Dunwyd]]. Bu farw ei fab [[Gruffydd ap Rhys ap Thomas]] yn 1521 a bu farw Rhys ei hun bedair blynedd wedi hynny, yn 1525 ym Mhriordy Caerfyrddin. Wedi dymchwel y briordy ar orchymyn gan Harri VIII, symudwyd ei gorff i gistfaen yn Eglwys San Pedr, Caerfyrddin.
 
Ei fab [[Rhys ap Gruffudd (rebel)]] oedd yr etifedd, ond fe'i cyhuddwyd o frad (ar gam, mae'n debyg) yn erbyn Harri VIII, brenin Lloegr ac fe'i dienyddiwyd fel rebel. Trosglwyddwyd ei diroedd a'i arian i goron Lloegr.
 
==Bywgraffiad==