William John Gruffydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
1914-1918 yr Ieuainc wrth yr Hen
Llinell 10:
 
Bu'n aelod blaenllaw o [[Plaid Cymru|Blaid Cymru]] am flynyddoedd lawer, ond yn [[1943]] safodd fel ymgeisydd Seneddol am [[Prifysgol Cymru (etholaeth seneddol)|sedd Prifysgol Cymru]] fel [[Y Blaid Ryddfrydol|Rhyddfrydwr]], yn erbyn [[Saunders Lewis]] oedd yn sefyll dros y Blaid. Gruffudd a etholwyd, a daliodd y sedd hyd [[1950]].
 
==Enghraifft o gerdd==
Mae ei gerdd ''1914-1918 yr Ieuainc wrth yr Hen'' yn gignoeth ac mae W. J. yn gweld bai ar y genhedlaeth hŷn am [[y Rhyfel Mawr]]. Milwr ifanc sy'n canu:
 
:Nyni oedd biau'r gwanwyn gwyrdd,
:Ac eiddom ni bob glendid greddf
:Ni oedd gariadon hyd y ffyrdd
:Yn nistaw hwyr yr hydref lleddf,
 
:Pob breuddwyd teg a phurdeb bryd,
:Pob gobaith, pob haelioni hir,
:Pob rhyw ddyheu am lanach byd,
:Pob tyfiant cain, pob goleu clir.
 
:Nyni yw'r rhai fendithiodd Duw
:A'r dewrder mawr heb gyfri'r gost
:Ni oedd yn canu am gael byw,
:A byw a bywyd oedd ein bôst.
 
:Ohonom nid oes un yn awr,-
:Aeth bidog drwy y galon lân,
:Mae'r ffosydd dros y dewrder mawr,
:Mae'r bwled wedi tewi'r gân.
 
:Pan gerddoch chwi, hen ddynion blin,
:Hyd lwybrau'r wlad, ni'ch blinir fawr
:Gan sibrwd isel, fin wrth fin,
:Mae r cariad wedi peidio'n awr.
 
:Mae melltith ar ein gwefus ni
:Yn chwerw, ond eto cyfyd gwên,
:Wrth gofio nad awn byth fel chwi,
:Wrth gofio nad awn byth yn hen.
 
==Cyhoeddiadau==