Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Llwydlo
[[Delwedd:Maria Tudor1.jpg|bawd| Y Frenhines Mari Tudur]]
Bu '''Mari I''' (neu '''Mari Tudur''') ([[18 Chwefror]] [[1516]] - [[17 Tachwedd]] [[1558]]) yn Frenhines [[Lloegr]] ac [[Iwerddon]] o [[19 Gorffennaf]] [[1553]] hyd at ei marwolaeth ym [[1558]].<ref>Weir, t. 160)</ref><ref>Waller, t. 16; Whitelock, t. 9</ref> Hi oedd unig ferch [[Harri VIII, brenin Lloegr]], a'i wraig gyntaf [[Catrin o Aragon]] i fod yn oedolyn.
 
Ei hanner brawd, Edward VI, [[Edward VI, brenin Lloegr|Edward VI]] (mab Henry VIII a [[Jane Seymore]]) olynydd Harri, a hynny yn 1647. Pan y deallodd na fyddai'n byw yn hir, oherwydd afiechyd, ceisiodd sicrhau na fyddai Mari yn ei olynu ar yr orsedd; gwnaeth hyn oherwydd fod ganddynt grefydd gwahanol, ac felly, gor-gyfnither, yr arglwyddes [[Jane Grey]] a orseddwyd. Casglodd Mari fyddin yn [[Dwyrain Anglia|Nwyrain Anglia]] a llwyddodd i ddiorseddu Jane Grey, a thorrwyd ei phen. Yn 1553 coronwyd Mari'n frenhines.
Ar ôl marwolaeth sydyn Mari ym [[1558]], ailgyflwynodd ei hanner chwaer [[Elisabeth I, brenhines Lloegr|Elisabeth]] y grefydd Brotestannaidd yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon.
 
==Llwydlo a Chymru==
Yn 1525 danfonwyd hi i'r [[Gororau]] i fyw, er mwyn iddi dderbyn addysg drwy drefniant Cyngor Cymru a'r Gororau.<ref>Porter, tt. 38–39; Whitelock, tt. 32–33</ref> Roedd ganddi lys ei hun o fewn muriau [[Castell Llwydlo]] a galwyd hi'n answyddogol yn 'Dywysoges Cymru' gan rai er nad oedd, mewn gwirionedd.<ref>Waller, p. 23</ref> Bu yno am dair blynedd.<ref>Loades, pp. 41–42, 45</ref>
 
==Gweler hefyd==
*[[Mari waedlyd (planhigyn)]]
*[[Y Gwrthddiwygwyr Cymreig]]
 
== Cyfeiriadau ==
{{bocs olyniaeth | cyn = [[Edward VI, brenin Lloegr|Edward VI]] | teitl = [[Brenhinoedd a breninesau Lloegr|Brenhines Lloegr]] | blynyddoedd = [[19 Gorffennaf]] [[1553]] – [[17 Tachwedd]] [[1558]] | ar ôl = [[Elisabeth I, brenhines Lloegr|Elisabeth I]]}}
{{diwedd-bocs}}