Thomas Stanley, iarll cyntaf Derby: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
ehangu, arwain at Frwydr Bosworth |
||
Llinell 13:
:James Stanley, Esgob Ely
}}
Uchelwr cyfoethog a thad-gwyn [[Harri Tudur]] oedd '''Thomas Stanley''' ([[1435]] – [[29 Gorffennaf]] [[1504]]), iarll cyntaf Derby, a Brenin Manaw (yr olaf i ddefnyddio'r enw). Ef oedd mab hynaf Thomas Stanley, barwn cyntaf Stanley a Joan Goushill. Drwy ei fam, roedd yn un o ddisgynyddion [[Edward I, brenin Lloegr|Edward I]] (drwy Elisabeth o Ruddlan), Iarlles Henffordd a thrwy deulu FitzAlan roedd yn ddisgynydd [[Harri III, brenin Lloegr|Harri III]]. Priododd Eleanor, merch yr Iorcydd [[Richard Neville, 5ed iarll Salisbury]] yn gyntaf; roedd hi'n chwaer i [[Richard Neville, iarll Warwick]] ("Y Gwneuthurwr Brenhinoedd"). Yna, yn 1472 priododd [[Margaret Beaufort]], mam Harri Tudur, wedi iddi golli ei gŵr cyntaf [[Edmwnd Tudur]] oedd o deulu Cymreig, a Lancastriad i'r carn.
Roedd yn dirfeddianwr
Disgrifir ef ym Mywgraffiadur Rhydychen fel dyn o allu a gweledigaeth miniog, a mwy na thebyg y dyn mwyaf pwerus o'i oes.<ref>Cyfieithiad o: ''Stanley was “a man of considerable acumen, and probably the most successful power-broker of his age”''. ''Oxford Dictionary of National Biography''. 2004.</ref>
Gyda'i frawd [[William Stanley (Brwydr Bosworth)|William]], ar y funud olaf, ochrodd gyda Harri Tudur ym [[Brwydr Bosworth|Mrwydr Bosworth]], a dywed Vergil mai Thomas Stanley a gododd goron Richard II o'r llawr a'i roi ar ben Harri Tudur.
==Brwydr Maes Bosworth==
{{Prif|Brwydr Maes Bosworth}}
Margaret Beaufort, ei wraig, a mam Harri Tudur oedd wrth wraidd gwrthryfel aflwyddiannus 1483, pan drodd saith llong o Lydaw yn eu holau, a phan dienyddiwyd gwrthryfelwyr fel Henry Stafford, ail ddug Buckingham, roedd Richard III mewn cyfyng-gyngor beth i'w wneud gyda Margaret. Yn hytrach nag ymuno gyda gwrthryfel Buckingham, beth wnaeth Thomas Stanley oedd dim. Nid ochrodd gyda'i wraig Margaret a Harri, a thrwy hynny,
Roedd Richard wedi'i amau ef a'i frawd iau William ers tro, ac ofnodd y byddai'n deyrngar i'w wraig a'i mab Harri, a gwireddwyd hyn. Yn haf 1485 mynnodd Richard II fod Thomas yn danfon ei fab (George Lord Strange) ato fel gwystl, a gwnaed hynny. Pan laniodd Harri ym Mhenfro danfonodd y brenin orchymyn i Thomas ddod ato i [[Nottingham]], ond ni ufuddhaodd Thomas. Yn ôl y gerdd ''Bosworth Field'' roedd Thomas Stanley yn [[Birmingham]] ac ar ei ffordd i Nottingham pan drawyd ef yn wael. Yn ôl cerdd Gymraeg o'r cyfnod hwn, cymerodd y brenin gwystl arall: nai William Stanley (ar ochr ei wraig) sef William Gruffudd a wnaed yn Siambarlen Gwynedd yn 1843. Pe bai Thomas neu William wedi ochri gyda Harri'n agored, byddai'r ddau wystl wedi'u dienyddio.
|