Thomas Stanley, iarll cyntaf Derby: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manc
BDim crynodeb golygu
Llinell 26:
Margaret Beaufort, ei wraig, a mam Harri Tudur oedd wrth wraidd gwrthryfel aflwyddiannus 1483, pan drodd saith llong o Lydaw yn eu holau, a phan dienyddiwyd gwrthryfelwyr fel Henry Stafford, ail ddug Buckingham, roedd Richard III mewn cyfyng-gyngor beth i'w wneud gyda Margaret. Yn hytrach nag ymuno gyda gwrthryfel Buckingham, beth wnaeth Thomas Stanley oedd dim. Nid ochrodd gyda'i wraig Margaret a Harri, a thrwy hynny, roedd yn deyrngar i Richard. Gwobrwywyd ef gan y brenin: gydag arglwyddiaeth Kimbolton a maenor Buckingham yn Thornbury yn [[Swydd Gaerloyw]], a derbyniodd lawer o diroedd yn Lloegr a pheth yng Nghymru. Roedd eisioes (o dan Buckingham) yn un o uchelwyr grymusaf Cymru. Nid ymunodd y Cymru yn y gwrthryfel cyntaf, aflwyddiannus, hwn - yn bennaf gan nad oedd Thomas Stanley yn rhan o'r ymgyrch. Yn eu barn nhw, Sais oedd Henry Stafford, ac nid oes tystiolaeth i unrhyw uchelwr o Gymro ei ddilyn. Yn hytrach na dienyddio Margaret am ei rôl blaenllaw yn yr ymgyrch, tynnodd Richard III ei harian oddi wrthi a'i roi i'w gŵr; yn yr un modd tynnodd ei gweision a'i morynion oddi wrthi a'i chaethiwo dan ofal ei gŵr.
 
Roedd Richard wedi'i amau ef a'i frawd iau William ers tro, ac ofnodd y byddai'n deyrngar i'w wraig a'i mab Harri, a gwireddwyd hyn. Yn haf 1485 mynnodd Richard IIIII fod Thomas yn danfon ei fab (George Lord Strange) ato fel gwystl, a gwnaed hynny. Pan laniodd Harri ym Mhenfro danfonodd y brenin orchymyn i Thomas ddod ato i [[Nottingham]], ond ni ufuddhaodd Thomas. Yn ôl y gerdd ''Bosworth Field'' roedd Thomas Stanley ym [[Manceinion]] ac ar ei ffordd i Nottingham pan drawyd ef yn wael. Yn ôl cerdd Gymraeg o'r cyfnod hwn, cymerodd y brenin gwystl arall: nai William Stanley (ar ochr ei wraig) sef William Gruffudd a wnaed yn Siambarlen Gwynedd yn 1843. Pe bai Thomas neu William wedi ochri gyda Harri'n agored, byddai'r ddau wystl wedi'u dienyddio.