Brwydr Maes Bosworth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cychwyn arni
Llinell 23:
}}
'''Brwydr Bosworth''' neu '''Frwydr Maes Bosworth''' oedd brwydr olaf [[Rhyfeloedd y Rhosynnau]] a ymladdwyd ar [[22 Awst]], [[1485]]. Roedd Rhyfel y Rhosynnau'n rhyfel cartref rhwng a Lancastriaid a'r [[Iorciaid]] a barhaodd am ddegawdau ola'r [[15fed ganrif]], ac mae brwydr Maes Bosworth yn nodi diwedd teyrnasiad y [[Plantagenetiaid]], pan laddwyd arweinydd yr Iorciaid, [[Richard III, brenin Lloegr]] gan fyddin [[Harri Tudur]] a ddaeth ar faes y gad yn Harri VII. Dyma, felly'r cyfnod hwnnw a elwir yn [[Cyfnod y Tuduriaid]].
{{Map Brwydr Bosworth}}
 
Glaniodd [[Harri Tudur]] ym [[Pont y Pistyll|Mhont y Pistyll]] ger [[Dale]] yn [[Sir Benfro]],<ref>Y Gwyddoniadur Cymreig; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008; tud 93.</ref> ar [[7 Awst]], gyda byddin fechan o Lancastriaid, yn [[Ffrancwyr]], [[Llydawyr]] ac [[Albanwyr]] yn bennaf, efallai tua 2,000 i gyd. Teithiodd o Benfro tua'r gogledd-ddwyrain yn hytrach na'n uniongyrchol tua'r dwyrain, ac yn ardal [[Cefn Digoll]] ger [[Y Trallwng]] ymunodd nifer sylweddol o Gymry â'i fyddin: llu o dde-orllewin Cymru dan [[Rhys ap Thomas]], gwŷr [[Gwent]] a [[Morgannwg]] dan yr Herbertiaid a gwŷr o ogledd Cymru dan William Griffith o'r Penrhyn. Dywedir bod Harri wedi ymgynghori â'r brudwr enwog [[Dafydd Llwyd o Fathafarn]] yn ei blasdy bychan ym [[Mathafarn]] ar ei ffordd yno i gael ei farn ; chwaraeodd y [[Canu Darogan|cerddi brud]] a gylchredai yng Nghymru ran bwysig yn ymgyrch Harri Tudur fel modd i ysbrydoli ei gefnogwyr yng Nghymru i gredi mai ef oedd y [[Mab Darogan]] hirddisgwyliedig a fyddai'n adfer [[Ynys Prydain]] i feddiant y [[Brythoniaid]], gan wireddu'r hen ddarogan. Erbyn iddo gyrraedd Cefn Digoll roedd ganddo fyddin o tua 5,000.
Llinell 31 ⟶ 30:
 
==Llinell Amser==
[[Delwedd:Y daith drwy Gymru i Fosworth March through Wales to Bosworth using Wales relief location map 3.svg|bawd|chwith400px|Taith Harri Tudur drwy Gymru.]]
{{Map Brwydr Bosworth}}
*1 Awst - 30 o longau [[Ffrainc]] yn gadael porthladd Harfleur gydag oddeutu 2,000 o filwyr
*7 Awst - Glaniodd Harri ym [[Pont y Pistyll|Mhont y Pistyll]] ([[Dale]]), ger [[Hwlffordd]]
*7 Awst - 15 Awst – Gorymdeithiodd trwydrwy GymruOrllewin ynCymru casglua mwy[[Rhys oap ddynionThomas]] drwy Ddwyrain Cymru, gan gasglu milwyr wrth fynd
*16 Awst - Byddinoedd Harri a Rhys yn cyfarfod ar fynydd [[Cefn Digoll]] ger [[Y Trallwng]], Powys
*21 Awst – Cyrhaeddod Bosworth, ger [[Caerlŷr]]
*22 Awst – Brwydr Bosworth