Brwydr Maes Bosworth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cychwyn arni
ehangu
Llinell 38:
*21 Awst – Cyrhaeddod Bosworth, ger [[Caerlŷr]]
*22 Awst – Brwydr Bosworth
 
==Gadael Honfleur==
Ymgasglodd llu enfawr ym Mhorthladd Ffrengig [[Honfleur]], ar aber y [[Seine]], yn niwedd Gorffennaf 1485, tua 500 ohonynt yn Saeson a Chymru alltud. Yn hanes 'John Major' a gyhoeddwyd yn 1521 sonir i [[Siarl VIII, brenin Ffrainc]] gynnig 5,000 o filwyr i Harri, gyda mil o'r rheiny'n dod o'r [[Alban]], gyda Syr Alexander Bruce yn eu harwain. Ond nid yw'n glir faint yn union o Ffrancwyr a ddaeth. Yn rhyfeddol, ni sonia'r un hanesydd o Loegr am yr Albanwyr hyn.<ref>{{cite book|last1=Skidmore|first1=Chris|title=Bosworth: The Birth of the Tudors|date=2013|publisher=Phoenix / Orion Books|location=London|isbn=978-0-7538-2894-6|page=224|accessdate=11 Ionawr 2016}}</ref> Wedi'r frwydr fe welwn i Harri wobrwyo Bruce gyda thaliad blynyddol o £20. Mae'r hanesydd Saesneg Chris Skidmore yn awgrymu fod dros hanner milwyr y llynges yn Ffrancwyr, llawer ohonynt o arsiwn Phillipe de Crevecoeur, Arglwydd Esquerdes. Cytuna Croniclwr Crowland gyda hynny, pan ddywedodd fod cymaint o Ffrancwyr ag oedd o 'Saeson'. Yn ôl Commynes roedd y 3,000 o Ffrancwyr a gasglodd 'ymhlith y dynion mwyaf didrefn Normandi cyfan!' Mae'n bosibl fod cadw'r rhain ar wahân i fyddin Rhys ap Thomas wedi bod yn ffactor pam y trafeiliodd y ddwy garfan ar wahân drwy Gymru.<ref>{{cite book|last1=Skidmore|first1=Chris|title=Bosworth: The Birth of the Tudors|date=2013|publisher=Phoenix / Orion Books|location=London|isbn=978-0-7538-2894-6|page=234|accessdate=11 January 2016}}</ref>
 
Gadawodd 30 o longau Honfleur ar 1 Awst 1485 a chafwyd 'gwynt teg a ffafriol' y tu ôl iddynt. Philibert de Chandée oedd arweinydd y Ffrancwyr a chapteiniwyd y llongau gan Guillaume de Casanove (ei lysenw oedd "Coulon").
 
Saith diwrnod yn ddiweddarach, cyrhaeddodd y llynges arfordir [[Sir Benfro|Penfro]] gan lanio ym [[Bae Pont y Pistyll|Mae Pont y Pistyll]], ger [[Dale]].
 
==Y daith trwy Gymru==
 
;7 Awst
Wedi glanio, ni chafwyd ymosodiad arnynt o gwbwl, a chysgodd byddin Harri o fewn tafliad carreg i Gastell Dale. Dadorchuddiwyd dwy faner: baner San Sior a Draig Goch: ''red fiery dragon beaten upon white and green sarcenet''. Urddodd wyth o'i ddilynwyr yn y fan a'r lle, seremoni a weithredir fel arfer gan frenin; dyma ddatganiad cyntaf Harri o'i honiad mai ef oedd gwir frenin Lloegr.
 
;8 Awst
Yn y bore, martsiodd y fyddin i [[Hwlffordd]], dinas weinyddol Sir Benfro yr adeg honno, a chawsant gryn groeso gan y dinasyddion, yn enwedig gan fod y gwir 'Iarll Penfro', sef Siasbar Tudur yn un o'r criw. Ymunodd y Cymro [[Arnold Butler]] gyda Harri gan fynegi fod y cyfan o Benfro y tu ôl iddo; roedd y ddau wedi cyfarfod misoedd ynghynt yn Llydaw i drefnu'r ymosodiad. Cyfaill agosaf Arnold Butler oedd Rhys ap Thomas, ac roedd hyn yn allweddol i lwyddiant y Cymry. Ymunodd dau arall: [[Gruffydd Rede]] o Gaerfyrddin a'i filwyr a [[John Morgan o Dredegar]], [[Gwent]]. Ar yr ail o Awst, dringodd y fyddin drwy Fwlch-y-gwynt a thros [[Mynydd Preseli|Mynyddoedd y Preselau]] ac ymlaen i'r gogledd tuag at y Fagwyr Lwyd, ychydig i'r de o Gilgwyn.
 
Ar yr 8fed o Awst, hefyd y dechreuodd Rhys ap Thomas ar ei daith drwy ddwyrain Cymru. Dewisiodd Rhys lwybr gwahanol i Harri am dri rheswm: yn gyntaf roedd yn casáu'r [[Ffrancwyr]] - a dyna oedd tros hanner byddin Harri.<ref>Cofnodwyd yn ei gofiant ''Life of Rhys ap Thomas'' a sgwennwyd tua diwedd ei oes, ei awydd barhaus i ''soundly to cudgel those French dogs''. Gweler ''Bosworth'' gan [[Chris Skidmore]]; Gwasg Phoenix; 2013; tud. 234.</ref> Yn ail, ceisiodd chwarae'r ffon ddwybig gan beri i Richard III gredu ei fod o'i blaid, ac felly nid ymosododd Richard ar unwaith gan ei fod yn teimlo'n saff. Yn drydydd, rhoddodd ei hun a'i fyddin o tua dwy fil a hanner o filwyr profiadol, arfog rhwng Harri a Richard. Roedd hyn hefyd yn golygu ei fod ef ar lwybr gwahanol yn casglu milwyr ato, o gymunedau gwahanol i Harri. Roedd Arnold Butler, Gruffydd Rede a John Morgan, cyfeillion pennaf Rhys yn cyd-deithio â Harri, ac yn ddolenau cryfion rhwng y ddau arweinydd, y dwy fyddin. Ceir cefnogaeth i hyn gan gofnod o ymateb Richard III pan glywodd fod Harri wedi glanio ym [[Penfro|Mhenfro]]: 'ychydig o ddynion sydd ganddo, a drwg fydd ei dynged: naill ai ymladd yn erbyn ei ewyllus neu ei gymryd yn garcharor gan Walter Herbert a Richard Thomas.' Yn ôl ''The Life of rhys thomas'' cymerodd Rhys lwybr gwahanol i Harri 'er mwyn cryfhau ei fyddin... a hysbysu'r Cymry wrth fynd ei fod yn bleidiol i Harri'.<ref>Gweler ''Bosworth'' gan [[Chris Skidmore]]; Gwasg Phoenix; 2013; tud. 253.</ref>
 
Fin nos, wedi taith hir a blinedig, gwersyllodd milwyr Harri ger "y pumed garreg filltir i gyfeiriad Aberteifi".
 
;9 Awst
Teithiodd y fyddin dros y Preselau, dros Fwlch y Gwynt; teithiwyd 17 milltir y diwrnod hwnnw nes dod o fewn milltir i Aberteifi: Magwyr Lwyd (i'r de o Cilgwyn). Mae olion y tŷ yn dal i'w weld heddiw (2016) yng nghanol ychydig o goed [[ffawydd]].
 
 
==Gweler hefyd==