Brwydr Maes Bosworth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
2 eh
-> 15
Llinell 62:
 
;10 Awst
Croewyd y Teifi ger tref Aberteifi gan aros am seibiant (medd y traddodiad) yn nhafarn "Y Tri Morwr" er mwyn sygrifennu rhagor o lythyrau i dywysogion ac Arglwyddi Cymreig. Ceir copi o un o'r rhain - llythyr at "John ap Meredith ap Jevan ap Meredith", sgweiar o ardal [[EifionnyddEifionydd]]. Anddo, mae'n dweud: ''"... the great confidence that we have to the nobles and commons (hy yr uchelwyr a'r werin) of this our Principality of Wales... to descend into the realm of England for the recovery of the crown unto us... for the opression of that odious tyrantRichard late duke of Gloucester (hy Richard III)... and (return) their people to their original liberties, delivering them from such miserable servitudes..." Yn y llythyr hwn mae Harri'n gosod ei hun fel achubwr cenedl y Cymry ac yn annog ei bobl i ochri gydag ef.<ref>{{cite book|last1=Skidmore|first1=Chris|title=Bosworth: The Birth of the Tudors|date=2013|publisher=Phoenix / Orion Books|location=London|isbn=978-0-7538-2894-6|page=238|accessdate=11 Ionawr 2016}}</ref>
 
Ger y 14fed garreg filltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberteifi arhosodd y fyddin i gael cyflenwad o ddŵr o Ffynnondewi. Wedi diwrnod hir o deithio 23 milltir, codwyd gwersyll ar dir plasty "Neuadd", cartref Dafydd ap Ieuan yn [[Llwyn Dafydd]] ym mhlwyf Llandysilio-gogo, ger [[Cwm Tudu]]. Mae Cwm Tudu ar yr arfordir, ac ychydig i ffwrdd o'u taith naturiol o Aberteifi i Aberystwyth, felly gellir ystyried y posibilrwydd i Harri gyfarfod a llongau yma, gyda chyflenwad o fwyd, arfau neu filwyr. Fel llawer o'r Cymry a fu'n driw iddo ar ei daith, gwobrwywyd Dafydd ap ieuan, wedi buddugoliaeth Maes Bosworth am ei garedigrwydd gydag anrheg o Gorn Hirlas ar orffwysfa arian, wedi'i addurno gyda draig Goch a milgi.
 
;11 Awst
Yn "Wern Newydd", yn ôl y traddodiad y cafwyd y seibiant nesaf: pedair milltir o Lwyn Dafydd. ac yna ymlaen nes cyrraedd Eglwys Sant Hilary, yn Llanilar,<ref>[http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1093205/llgc-id:1097087/llgc-id:1097526/getText Gweler: ''Ceredigion : Journal of the Cardiganshire Antiquarian Society''] - Cyf. 10, rhif. 1-4 1984-1987 ''Un o'r harddaf yn y parth hwn o'r sir : adnewyddu Eglwys Llanilar, 1873-4'': 'Roedd Sant Liar yn un o'r seintiau Celtaidd llai pwysig a drigai naill ai yn ystod y chweched ganrif neu'r seithfed ganrif wedi geni Crist. Awgryma'r diweddar Athro E.G. Bowen fod liar yn un o'r cenhadon teithiol, y 'peregrini' a ddaeth drosodd o Ffrainc i Gymru ac ymsefydlu yn Llanbadarn Fawr. O'r fam eglwys honno yr aeth rhai ohonynt, ac liar yn eu mysg, allan i genhadu ac i sefydlu eglwysi bychain ymhlith trigolion paganaidd gogledd Ceredigion.</ref> pedair milltir o [[Aberystwyth]]. Duwedir i Harri gysgu'r nos ym mhlasty "Llidiardau", Dyffryn Ystwyth.
 
;12 Awst
Cipiodd Harri Gastell Aberystwyth heb lawer o drafferth; castell a oedd yn cael ei gynnal ar ran y brenin gan Walter Devereux, arglwydd Ferrers. 'Doedd Richard III ddim yn credu fod Harri a llond dwrn o filwyr bler yn fawr o ymosodiad ac nid oedd wedi rhuthro i wared ag ef. Ond pan glywodd fod Castell Aberystwyth wedi disgyn i ddwylo'r Cymro, fe'i hysgytwyd a sylweddolodd ei bod yn bryd iddo alw holl filwyr Lloegr at ei gilydd. Ar y llaw arall, i Harri, roedd yn hynod bles, ond anisgwyl, nad oedd fawr o ymateb milwrol wedi bod yn ei erbyn ers iddo lanio ym Mhenfro. Mae'n bosib i Harri a'i fyddin aros yng nghyffiniau Aberystwyth y noson honno, a danfonodd Harri nifer o sgowtiaid allan o'r dref i weld beth oedd hanes Rhys ap Thomas a Walter Herbert. Yn [[Rhaeadr]], ychydig tua 30 milltir i'r dwyrain oedd byddin Rhys erbyn hyn, oddeutu 2,000 ohonynt, wedi iddo ddanfon cryn lawer o wragedd a phobl ifanc a oedd yn eiddgar i ymuno ag ef, yn ôl i'w cymunedau.
 
;13 ac 14 Awst
Wedi taith o 92 milltir ers glanio ar y 7fed o Awst, cyrhaeddodd y fyddin [[Machynlleth]]: tref llawn symboliaeth cenedlaethol a chyn-leoliad senedd Cymru. Yma y brwydrodd hynafiaid Harri yn erbyn [[Harri IV, brenin Lloegr]]. Ac yma y cyfarfu Harri â gwŷr Gwynedd a oedd am ymuno gyda byddin Harri.
 
;15 Awst
Cychwynodd Harri o Fachynlleth, gan droi i gyfeiriad Lloegr, i'r dwyrain ac anelu am [[yr Amwythig]]. Teithiwyd 30 milltir y diwrnod hwnnw - i'r [[y Drenewydd|Drenewydd]] a thrwy Bwlchyfedwen nes cyrraedd Dolarddyn, ger [[Castell Caereinion]].
 
==Gweler hefyd==