Brwydr Maes Bosworth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
20 Awst
Llinell 46:
Saith diwrnod yn ddiweddarach, cyrhaeddodd y llynges arfordir [[Sir Benfro|Penfro]] gan lanio ym [[Bae Pont y Pistyll|Mae Pont y Pistyll]], ger [[Dale]].
 
==Y daith trwy Gymru ac i Faes Bosworth==
[[Delwedd:Richard vs Henry at Bosworth (lens corrected).jpg|bawd|Ffenstr liw: Richard III (ch) a Harri Tudur (dde).]]
 
;7 Awst
Llinell 82 ⟶ 83:
;16 Awst
Dydd Mawrth: ymlaen am chwe milltir i'r man cyfarfod: bryn gwastad enfawr ychydig i'r dwyrain o'r Trallwng: [[Cefn Digoll]]. O gopa Cefn Digoll y gwelodd Harri Loegr am y tro cyntaf ers oedd yn fachgen bach. Yno hefyd y cyfarfu â Rhys ap Thomas a'i fyddin yntau ac yno y cymerodd Rhys lw i'w frenin newydd: Harri Tudur. Rhwng Machynlleth a Chefn Digoll, ymunodd llawer iawn o Gymry gan gynnwys: [[William Griffith|[William Griffiths o'r Penrhyn]], ger [[Bangor]], [[Richard ap Howell]] o'r [[Mostyn]], [[Sir y Fflint]] a [[Rhys Fawr ap Maredudd]] o [[Plas Iolyn|Blas Iolyn]] o Ddyffryn Conwy. Ceir cofnod i gannoedd o filwyr gyrraedd yn eu sgil yn ogystal ag ych tewion i fwydo'r holl fyddin.
[[Delwedd:Shrewsbury Bridge 01958.jpg|bawd|chwith|Codwyd y bont yma (''"the Welsh Bridge"'') yn 1792-5, ar sylfaeni pont cynharach. Cyfesurynnau grid: SJ 48880 12771.]]
 
;17 Awst
Llinell 97 ⟶ 99:
 
;20 Awst
Ymlaen i ddinas [[Lichfield]] dros 'Woosley Bridge', lle cafodd ei dderbyn gan y bobl gyda breichiau agored a chroeso cynnes. Tridiau ynghynt by Thomas Stanley yn aros yn y ddinas gyda llu o 5,000 o filwyr. Ymddengys ei fod wedi paratoi'r ffordd ar gyfer Harri, sy'n dangos ei beth oedd ei safbwynt, ei duedd ar yr adeg yma: gyda Harri. Roedd sgowtiaid Richard yn dyst i'r croeso hwn a gafodd Harri; sylweddolodd Richard hefyd y gallai Harri fynd fel y coblyn i Lundain a hawlio'r Goron. Gwawriodd arno fod yn rhaid iddo ymosod yn sydyn, cyn i ragor ymuno gyda Harri a chyn iddo gyrraedd Llundain. Gwyddom i fyddin Richard dreulio'r noson yng [[Caerlŷr|Nghaerlŷr]] y noson hon, wedi martsio drwy'r dydd; ymunodd a dug Norfolk a oedd yn aros amdano.
 
==Gweler hefyd==