Shilpa Shetty: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Shilpa Shetty 2007.jpg|bawd|dde|Shilpa Shetty]]
Mae '''Shilpa Shetty''' (Tulu: ಶಿಲ್ಪ ಶೆಟ್ಟಿ; ganed [[8 Mehefin]] [[1975]]) yn [[actores]] a [[model]] o'r [[India]]. Ers ymddangos yn ei ffilm gyntaf Baazigar (1993), mae hi wedi bod mewn bron i 40 o ffilmiau 40 Hindi, Tamil, Telugu a Kannada, gyda'i phrif rôl gyntaf yn y ffilm Aag (1994). Er i'w gyrfa ddirywio'n sylweddol dros y blynyddoedd, mae Shetty wedi ail-greu ei delwedd yn rheolaidd. Gwerthfawrogwyd ei pherfformiadau yn Dhadkan (2000) a Rishtey (2002), tra bod ei phortread o berson yn dioddef o [[AIDS]] yn Phir Milenge (2004) wedi ennill nifer o wobrau iddi. MAe ei chwaer ieuengaf, Shamita Shetty hefyd yn actores mewn ffilmiau Bollywood.
 
Mae Shetty wedi cael ei chysylltu droeon â phynciau dadleuol, gan gynnwys amheuon fod ganddi gysylltiadau â'r [[Maffia]]. Ar ôl iddi gyrmyd rhan yn y rhaglen deledu Brydeinig, "Celebrity Big Brother" yn [[2007]], fe'i coronwyd fel enillydd y gyfres pan dderbyniodd 63% o'r bleidlais gyhoeddus.<ref>[http://www.channel4.com/entertainment/tv/microsites/B/bb7_celebrity/news/newsstory.jsp?id=1456&housemateId=9 Shilpa Shetty wins Celebrity Big Brother 2007] Adalwyd 24-03-2009</ref> Tra ar y rhaglen hon, cafwyd anghydfod hiliol rhyngwladol rhyngddi hi a'i chyd-gystadleuwyr [[Jade Goody]], [[Jo O'Meara]] a [[Danielle Lloyd]]. Arweiniodd hyn at Shetty'n ail-sefydlu ei hun ym myd ffilmiau ac ymddangosodd mewn dwy ffilm, Life in a... Metro a Apne, gyda'i pherfformiadau'n derbyn adolygiadau cadarnhaol iawn wrth y beirniaid.<ref>[http://specials.rediff.com/yearend/2007/dec/18yrpoweractress11.htm The most powerful actresses of 2007] Adalwyd 24-03-2009</ref>