Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
B Dadwneud y golygiad 1737023 gan 213.105.164.32 (Sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 11:
 
==Yr Eisteddfod ddoe a heddiw==
Er bod traddodiad yr [[eisteddfod]] yn ganrifoedd oed, ni chynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf tan [[1861]], yn [[Aberdâr]]. Daeth y gyfres flynyddol honno i ben oherwydd diffyg cyllid yn 1868. Yn 1880 sefydlwyd [[Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol]] a dan nawdd y gymdeithas hon cynhaliwyd Eisteddfod [[Merthyr Tudful]] yn [[1881]] a chynhaliwyd eisteddfod yn ddifwlch wedyn ar wahân i [[1914]] a [[1940]].<ref>Melville Richards, 'Eisteddfod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', yn ''Twf yr Eisteddfod Genedlaethol''.Uhbfbuh fu</ref>
 
Roedd [[Iolo Morganwg]] wedi sefydlu [[Gorsedd Beirdd Ynys Prydain]] yn [[1792]]. Fel y tyfodd yr Eisteddfod Genedlaethol daeth yr orsedd i'w chysylltu fwy-fwy gyda hi, gan gychwyn gydag [[Eisteddfod Caerfyrddin 1819]], nes datblygu yn rhan o seremonïau'r eisteddfod fwy neu lai fel y mae heddiw. Yr orsedd sydd yn gyfrifol am seremonïau cadeirio a choroni'r bardd yn ogystal â chyflwyno'r Fedal Ryddiaith. Ailwampiodd yr Archdderwydd [[Geraint Bowen]] tipyn ar y seremonïau, er enghraifft diddymu Seremoni'r Cymry Ar Wasgar' a dod â'r brodyr Celtaidd i mewn i rai o'r prif seremonïau. Mae aelodau'r orsedd yn rhannu'n dri grŵp gyda lliw gwahanol i wisg bob un.