John Williams (casglwr llawysgrifau): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Cywiriadau ieithyddol
cynildeb a theipio
Llinell 1:
:''Gweler hefyd [[John Williams]] (tudalen gwahaniaethu).''
[[Delwedd:Sir John Williams, 1st Baronet.jpg|bawd|unionsyth|Syr John Williams]]
Casglwr [[llawysgrifau Cymreig]] ac un o sylfeinwyrsylfaenwyr [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] oedd Syr '''John Williams''' ([[6 Tachwedd]] [[1840]], [[Gwynfe]], [[Sir Gaerfyrddin]] – [[24 Mai]] [[1926]]).
 
Brodor o Sir Gaerfyrddin oedd Syr John. Ar ôl gyrfa fel [[llawfeddyg]] yn [[Abertawe]] ac yng [[Coleg Prifysgol Llundain|Ngholeg Prifysgol Llundain]] a chael ei urddo'n farchog ym 1894 am ei wasanaeth i [[llawfeddygaeth|lawfeddygaeth]], dychwelodd i'w sir enedigol ym 1903 i fyw yn [[Llansteffan]].
 
Trwy gydol ei oes bu'n gasglwr [[llawysgrif]]au brwd. Roedd ei gasgliad, a seiliwyd ar y casgliad cynnar a adwaenir fel [[Llawysgrifau Llansteffan]], yn cynnwys llawysgrifau ychwanegol a gasglwyd gan hynafiaethwyr fel [[Gwallter Mechain]] a Syr Thomas Phillipps, a rhai o lawysgrifau'r bardd [[Lewis Morris]], ac eraill. Yn ogystal, prynodd [[Llawysgrifau Peniarth|Lawysgrifau]] [[Peniarth]] ym 1908. Bu ganddo felly un o'r casgliadau gorau o lawysgrifau Cymraeg a luniwyd erioed yn ei feddiant.
 
Pan gafwyd cynllun i sefydlu llyfrgell genedlaethol addawodd Syr John y byddai'n cyflwyno ei gasgliad gwerthfawr iddi ar yr amod ei bod yn cael ei lleoli yn [[Aberystwyth]], ac felly y bu. Diolch i'r penderfyniad hwnnw arhosodd trysorau fel ''[[Llyfr Du Caerfyrddin]]'' a ''[[Llyfr Taliesin]]'' a nifer o lawysgrifau hynafol eraill yng Nghymru i'r cenedlaethau a ddêl.