Buwch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
penawde
enw torfol
Llinell 20:
 
== Ych ==
Arferai gwartheg (gwrywaidd gan amlaf) dynnu cerbydau neu erydr ar ffermydd, er bod yr arfer hwn bellach wedi dod i ben yng [[Cymru|Nghymru]] a gwledydd datblygedig eraill yn sgil dyfodiad y [[tractor]]. Gelwir bustach sydd wedi ei fagu at waith tynnu yn ych. Fe ddefnyddir ychen i aredig, i dynnu trol, cert, coed neu lwyth arall ac i weithio pwmp dŵr i ddyfrhau. Yr enw torfol yw 'gyrr o wartheg'.
 
Gan amlaf defnyddir dau ych i weithio ar y cyd a rhoddid [[iau]] ar eu gwarrau fel bod y gwaith tynnu yn cael ei rannu ar draws eu hysgwyddau. Dewisir ychen â chyrn ganddynt at y gwaith fel bod modd defnyddio’r cyrn i gadw’r iau yn ei le pan fydd yr ychen yn arafu, yn cerdded am yn ôl neu yn gostwng eu pennau.