Umbria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B newid hen enw, replaced: Peru → Periw (4) using AWB
Wmbria
Llinell 16:
map = [[Delwedd:Italy Regions Umbria Map.png|Umbria]] |
}}
Rhanbarth yng nghanolbarth [[yr Eidal]] yw '''Umbria''' neu weithiau yn Gymraeg '''Wmbria'''.<ref>''[[Geiriadur yr Academi]]'', [Umbria].</ref> Roedd y boblogaeth yn [[2006]] yn 867,878. Y brifddinas yw [[Periwgia]]; dinas bwysig arall yw [[Terni]], ac mae [[Assisi]] yn y rhanbarth yma.
 
Mae Umbria yn ffinio ar ranbarthau [[Toscana]] yn y gorllewin, [[Marche]] yn y dwyrain a [[Lazio]] yn y de. Ceir mynyddoedd yr [[Apenninau]] yn nwyrain y dalaith; y copa uchaf yw [[Monte Vettore]], 2,476 medr o uchder. Mae [[afon Tiber]] yn llifo trwy'r rhanbarth ac yn ffurfio'r ffîn a Lazio.
 
Cafodd y rhanbarth ei enw oddi wrth lwyth yr [[Umbri]], a ymsefydlodd yn yr ardal yn y 6ed ganrif CC. Yn ddiweddarach, concrwyd llawer o'r diriogaeth gan yr [[Etrwsciaid]], yna meddiannwyd yr ardal gan y Rhufeiniaid.
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
== Dolenni allanol ==