Sarmatiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Yr Almaeneg, en a Daneg yn dweud mai o Iran y deuthent; cadw'r ddau nes bod ychwaneg o wybodaeth.
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Map of Colchis, Iberia, Albania, and the neighbouring countries ca 1770.jpg|thumb|right|150px|"''Sarmatia Europæa''" wedi ei rhannu oddi wrth "''Sarmatia Asiatica''" gan Afon Tanais ([[Afon Don]] yn Rwsia heddiw). Map o tua 1770, yn seiliedg ar yr haneswyr Groegaidd.]]
 
Roedd y '''Sarmatians''', '''Sarmatae''' neu '''Sauromatae''' ([[Hen Roeg]]: {{lang|grc|Σαρμάται, Σαυρομάται}}) yn gydffederasiwn enfawr o bobl o dras [[Tyrciaid|Twrciaidd]] aca / neu [[Iran|Iranaidd]]<ref>[http://books.google.de/books?id=4iwHp8amsdEC Viktor Aleksandrovich Shnirelʹman, Who Gets the Past?], Woodrow Wilson Center Press, 1996, s.28</ref><ref>Zakiev M. Z., [http://s155239215.onlinehome.us/turkic/24Alans/WhoAreAlansEn.htm Problems of the history and language, Who are the Alans?], Kazan, 1995</ref><ref>(William Hearth, ORMUS: Timeline of Ancients, 2007, s.174)</ref> a ymfudodd o Ganolbarth Asia i ardal [[Mynyddoedd yr Wral]] tua'r [[5ed ganrif]] CC. Ceir cyfeiriad atynt gan [[Herodotus]] yn y cyfnod yma.
 
Pan oedd eu tiriogaeth ar ei fwyaf, roedd yn ymestyn o Afon Fistula hyd aber [[Afon Donaw]] ac o wlad yr Hyperboreaid yn y gogledd hyd at y [[Môr Du]] a [[Môr y Caspian]] a'r ardal rhyngddynt cyn belled a [[Mynyddoedd y Cawcasws]]. Mae'r darganfyddiadau mwyaf nodedig o feddau ac olion eraill wedi eu gwneuf yn [[Krasnodar Krai]] yn [[Rwsia]].