Cyflwynydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
enghreifftiau
dileu bras
Llinell 4:
 
==Cyflwynydd teledu==
Person sy'n cyflwyno neu'n gwesteio [[rhaglen deledu]] ydy '''cyflwynydd teledu'''. Mae'n gyffredin i enwogion o nifer o feysydd gymryd y rôl hwn erbyn heddiw, a cheir nifer o bobl sy'n gwneud bywoliaeth o gyflwyno yn unig, yn enwedig ym myd [[teledu plant]]. Mae [[Steve Jones (cyflwynydd)]] er enghraifft, sy'n enedigol o [[Trerhondda|Drerhondda]] wedi cyflwyno rhaglenni i'r arddegau T4 ar Channel 4 ac yn yr [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]], mae'n fwyaf adnabyddus am fod yn gyflwynydd cyfres gyntaf rhaglen deledu ''The X Factor USA''.
 
==Cyflwynydd radio==
Yn fras, mae '''cyflwynydd radio''' yn gwneud yr un swydd a chyflwynwyr teledu ond eu bod yn cyflwyno rhaglenni [[radio]] yn hytrach na theledu. Mae [[Hywel Gwynfryn]] yn enghraifft o gyflwynydd ar Radio Cymru, sydd wedi bod wrth ei waith ers tua hanner canrif, gan gyflwyno rhaglenni fel y rhaglen bop Cymraeg gyntaf ''[[Helo Sut Da Chi?]]'' ar y radio yn 1968.
 
==Cyflwynydd chwaraeon==
Math o [[newyddiadurwr]] ar y teledu neu/a'r radio ydy [[sylwebydd chwraeon]] (a adnabyddir hefyd fel '''cyflwynydd chwaraeon''', '''cyhoeddwr chwaraeon''' neu '''darlledwr chwaraeon'''), sy'n arbennigo mewn adrodd neu sylwebu ar ddigwyddiadau chwaraeon. Gwneir hyn yn aml yn fyw. Mae [[Nic Parri]]'n enghraifft o gyflwynydd rhaglenni [[pêl-droed]] ar y teledu e.e. ''[[Sgorio]]'' ar [[S4C]],<ref>{{dyf gwe| url=http://www.s4c.co.uk/sgorio/c_/nic| teitl=Sgorio: Nic Parry| cyhoeddwr=S4C| dyddiadcyrchiad=2 Mawrth 2010}}</ref> Cyflwynydd rhan amser ydy Nic, ond ceir hefyd cyflwynwyr chwaraeon llawn amser.
 
==Cyfeiriadau==