Éilís Ní Fhearghail: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd Éilís Ní Fhearghail (en:Elizabeth O'Farrell) 5 Tachwedd, 1884 - 25 Mehefin, 1957 yn nyrs Gwyddelig ac aelod o Cumann na mBan, sydd fwyaf adnabydd...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Éilís Ní Fhearghail''' ('''''en: Elizabeth O'FarrellFarrel'''''l) [[5 Tachwedd]], [[1884]] - [[25 Mehefin]], [[1957]] yn nyrs Gwyddelig ac aelod o [[Cumann na mBan]], sydd fwyaf adnabyddus am gyflwyno'r ddogfen ildio wedi [[Gwrthryfel y Pasg]] 1916.<ref> Frances Clarke & James Quinn; O'Farrell, Elizabeth [http://centenaries.ucd.ie/wp-content/uploads/2015/04/OFarrell-Elizabeth.pdf] adalwyd 11 Mawrth 2016</ref>
 
==Cefndir ==
Ganwyd Elizabeth O'Farrell yn 33 Quay City, [[Dulyn]] ar 5 Tachwedd 1884 <ref>S. McCoole, "No Ordinary Women", t.193.</ref>. Roedd yn ferch i Christopher O'Farrell a Margaret neé Kenneth.
 
Bu farw ei thad pan oedd hi'n ifanc a bu'n rhaid iddi ymadael a'r ysgol i ganfod gwaith; cymerodd swydd yng nghwmni argraffu Armstrong yn Stryd Amiens, Dulyn. Ymunodd a Inghinidhe na hEireann ym 1906. Gweithiodd fel bydwraig yn Ysbyty Holles Street yn Nulyn <ref>[http://www.aughty.org/pdf/irish_women_res2.pdf National Library of Ireland Research Guide Women in Irish History t 13] adalwyd 11 Mawrth 2016</ref>.
==Y Gwrthryfel==
 
Bu Éilís Ní Fhearghail yn gweithredu fel negesydd cyn ac yn ystod Gwrthryfel y Pasg, yn danfon bwletinau a chyfarwyddiadau i ganolfannau'r gwrthryfelwyr o gwmpas Dulyn. Roedd hin un o'r tair menyw a arhosodd yn Swyddfa Bost Gyffredinol Dulyn hyd ddiwedd y gwrthryfel; y ddwy arall oedd [[Winifred Carney]] a [[Julia Grenan]]. Gyda'i chyfaill a'i chyd-nyrs, Julia Grenan, bu hi'n gofalu am y rhai a chlwyfwyd yn y gwarchae ar y GPO, gan gynnwys [[James Connolly]].
 
Am 12.45 pm ar ddydd Sadwrn 29 Ebrill rhoddwyd arwyddlun y [[Mudiad Rhyngwladol y Groes Goch a'r Cilgant Coch|Groes Goch]] a baner wen i Ní Fhearghail a gofynnwyd iddi gyflwyno dogfen ildio i'r [[Y Fyddin Brydeinig|fyddin Brydeinig]]. Aeth a'r ddogfen ildio i'r Brigadydd Cyffredinol William Lowe, gwrthododd ef y telerau ildio gan anfon Éilís yn ôl at Patrick[[Pádraig Pearse]] yn rhif 16 Stryd Moore gan fynnu bod rhaid i'r gweriniaethwyr ildio yn gwbl ddiamod. Cytunodd Pearse ac, yng nghwmni Ní Fhearghail aeth at y Brigadydd gan ildio'n bersonol i Lowe. Mewn lluniau a ymddangosodd yn y wasg ar y pryd mae Ní Fhearghail i'w gweld wedi ei chuddio'n rhannol gan Pearse, ar adeg yr ildio ond yn yr unig ddelwedd sydd wedi goroesi o'r ildiad mae presenoldeb Éilís wedi ei ddileu er siom i'r sawl sydd am ddathlu cyfraniad merched mewn digwyddiadau o bwysigrwydd hanesyddol <ref> The woman airbrushed from history [http://centenaries.ucd.ie/wp-content/uploads/2016/02/Supplement-8-ofarrell.pdf ] adalwyd 11 mawrth 2016</ref>.
 
Yng nghwmni offeiriad a thri milwr aeth Éilís i ddosbarthu'r gorchymyn i ildio i safleoedd y gweriniaethwyr ar draws Dulyn.
 
Er gwaethaf sicrwydd Lowe na fyddai'n cael ei chymryd yn garcharor, cafodd ei arestio a'i chadw dan glo ym Marics Ship Street wedi'r ildio. Pan glywodd Lowe am yr arestio gorchymynnodd ei bod i'w rhyddhau ac fe ymddiheurodd iddi hi <ref>{{cite book|last1=Clarke|first1=Frances|last2=Quinn|first2=James|editor1-last=McGuire|editor1-first=James|editor2-last=Quinn|editor2-first=James|title=Dictionary of Irish Biography|date=2013|publisher=Cambridge University Press|location=Cambridge|url=http://dib.cambridge.org/viewReadPage.do?articleId=a6740|accessdate=9 January 2016|chapter=O'Farrell, Elizabeth|subscription=yes}}</ref>.
 
Arhosodd yn weithgar mewn gwleidyddiaeth Weriniaethol hyd ei marwolaeth
Llinell 19:
==Marwolaeth==
 
Bu farw yn Fatima House yn Bray, swydd[[Swydd Wicklow]] 25 Mehefin 1957 a chael ei chladdu yn y Plot Weriniaethol ym Mynwent Glasnevin ochr yn ochr â Julia Grenan.
 
==Coffadwriaethau==