Robin Hwd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
B dol
Llinell 2:
[[Herwr]] chwedlonol yn [[llên gwerin Lloegr]] yw '''Robin Hwd'''<ref>Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. ''[[Geiriadur yr Academi]]'' (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1179 [Robin: Robin Hood].</ref><ref name=Cymraeg>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://books.google.co.uk/books?id=sCbp8DWbd_kC&pg=PA27&lpg=PA27&dq=%22robin+hwd%22&source=bl&ots=H5sAIfsxNb&sig=QRjldatZ2knmNkezMtK-a_Xlebg&hl=en&sa=X&ei=Z86kUrujH8WShQfA4oGYBA&ved=0CDkQ6AEwAjgK#v=onepage&q=%22robin%20hwd%22&f=false |teitl=Robin Hood: The Shaping of the Legend |awdur=Singman, Jeffrey L. |dyddiad=1998 |dyddiadcyrchiad=8 Rhagfyr 2013 }}</ref> ({{iaith-en|Robin Hood}}). Mae'n destun nifer o [[baledi|faledi]] sy'n dyddio ers y 14eg ganrif. Mae Robin a'i griw, ei "Lanciau Llon",<ref>''Geiriadur yr Academi'', t. 882 [merry: Robin Hood and his merry men].</ref> yn dwyn oddi ar y cyfoethog a'r pwerus er budd y tlawd. Mewn nifer o'r straeon, Marian Forwyn<ref>''Geiriadur yr Academi'', t. 853 [maid: Maid Marian].</ref> yw ei gariad. Yn draddodiadol mae Robin Hwd a'i griw yn gwisgo dillad o liw [[gwyrdd Lincoln]]. Cysylltir y chwedl yn bennaf ag ardal [[Swydd Nottingham]] a [[Swydd Lincoln]], yn enwedig [[Coedwig Sherwood]], er roedd baledi cynnar wedi eu lleoli yn ne [[Swydd Efrog]].<ref name=Britannica>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/505662/Robin-Hood |teitl=Robin Hood |dyddiadcyrchiad=8 Rhagfyr 2013 }}</ref> Mae dyddiadau honedig y straeon yn amrywio o deyrnasiad [[Rhisiart I, brenin Lloegr|Rhisiart I]] (1189–99) i oes [[Edward II, brenin Lloegr|Edward II]] (1307–27).<ref name=Brewer/>
 
Ceir sôn am Robin mewn nifer o ffynonellau ar draws Prydain, gan gynnwys ''The Vision of Piers Plowman'' (1377) gan [[William Langland]], ''The Orygynale Cronykil of Scotland'' gan [[Andrew Wyntoun]] (tua 1420),<ref name=Brewer/> a chasgliad o ganeuon Cymraeg o'r 15fed ganrif (llsgr. [[llawysgrif Peniarth 53|Peniarth 53]]).<ref name=Cymraeg/> Cyhoeddodd [[Wynkyn de Worde]] y casgliad cyntaf o faledi amdano tua 1489. Mae'n bosib yr oedd y chwedl yn seiliedig ar herwr go iawn o'r un enw. Yn ôl tybiaeth arall roedd y Robin Hwd go iawn yn [[Robert Fitzooth, Iarll Huntingdon]].<ref name=Brewer>Rockwood, Camilla (gol.). ''[[Brewer's Dictionary of Phrase and Fable]]'', 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 1129.</ref> Roedd Robin yn amddiffyn y tlawd ac yn twyllo a lladd y cyfoethog a swyddogion llwgr a digydwybod yr eglwys a'r llywodraeth. Mae'r elfen hon o'i chwedl yn adlewyrchu'r anfodlonrwydd ymysg y bobl gyffredin a arweiniodd at [[Gwrthryfel y Werin|Wrthryfel y Werin]] ym 1381.<ref>[[David Crystal|Crystal, David]] (gol.). ''The Penguin Encyclopedia''' (Llundain, Penguin, 2004), t. 1309.</ref>
 
== Gweler hefyd ==