Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Richard Wilson (arlunydd)"

Lleihawyd o 8 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
Dilei dolenni diangen
(Man bethau)
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
(Dilei dolenni diangen)
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
[[Delwedd:Richard-Wilson.jpg|250px|bawd|Portread o Richard Wilson gan [[Anton Raphael Mengs]]]]
[[Arlunydd]] o Gymro oedd '''Richard Wilson''' ([[1 Awst]], [[1714]] - [[15 Mai]], [[1782]]).
 
Cafodd ei eni yn rheithordy [[Penegoes]], ger Machynlleth yn [[Sir Drefaldwyn]]. Roedd ei dad [[John Wilson]] yn rheithior yno ac wedi bod ym Mhrifysgol Rhydychen ac ef oedd yn ei ddysgu mae'n debyg. Roedd ei fam, Alice Wynne yn perthyn i nifer o deuluoedd bonheddig a chefnog yng Nghymru.
 
Aeth i Lundain yn llanc 16 oed at arlunydd o'r enw [[Thomas Wright]] i ddysgu sut i beintio portreadau dan nawdd Syr George Wynne, perchennog mwynglawdd ac yn perthyn i'w fam. Ymhen 6 blynedd sefydlodd ei fusnes ei hun yn peintio portreadau.
Ar ôl ymweliad â'r [[Yr Eidal|Eidal]] ([[1749]]-[[1756]]), canolbwyntiodd ar dirluniau. Roedd yn arloeswr a fabwysiadodd arddull rhydd telynegol yn lle [[Clasuriaeth]], gan baratoi'r ffordd i artistiaid diweddarach fel [[Gainsborough]] a [[John Constable|Constable]]. Fe fu farw yng [[Colomendy (Sir Ddinbych)|Ngholomendy]], [[Sir Ddinbych]].
 
Defnyddiwr anhysbys