Comedi stand-yp: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Jesus is coming.. Look Busy (George Carlin).jpg|bawd|200px|[[George Carlin]] yn perfformio comedi ar ei sefyll.]]Ffurf o [[comedi|gomedi]] yw '''comedi ar ei sefyll'''<ref name=GyA/> neu '''gomedi ar ei draed'''<ref name=GyA>Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. ''[[Geiriadur yr Academi]]'' (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1357 [stand-up comedian].</ref> lle mae [[digrifwr]] yn perfformio o flaen cynulleidfa yn fyw, gan eu hannerch yn uniongyrchol.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/693256/stand-up-comedy |teitl=stand-up comedy |gwaith=[[Encyclopædia Britannica]] |dyddiadcyrchiad=6 Ionawr 2014 }}</ref> Weithiau caiff perfformiadau eu ffilmio er mwyn eu rhyddhau ar [[DVD]], y [[rhyngrwyd]], neu [[teledu|deledu]], neu eu recordio a'u rhyddhau ar [[albwm comedi|albwm]]. Gelwir y perfformiwr yn ddigrifwr(aig) ar ei sefyll, yn ddigrifwr(aig) ar ei draed, neu'n ''stand-up'' (o'r Saesneg: ''stand-up comedian'').
 
==Yng Nghymru==
Yng ngwledydd Prydain mae comedi stand-yp yn draddodiad sy'n deillio yn wreiddiol o neuaddau gerddoriaeth yn yr 18fed a'r 19eg ganrif, gyda pherfformwyr unigol ar lwyfan theatr, yn dweud jôcs neu adrodd stori. Yng Nghymru roedd llai o gyfleoedd i berfformio'n broffesiynol ac roedd traddodiad yn fwy gwerinol ac amatur, gyda cyfleoedd i berfformio comedi mewn eisteddfodau, clybiau cymdeithasol, tafarndai, nosweithiau llawen a chlybiau ffermwyr ifanc. Arweinydd noson adloniant fyddai'r digrifwr fel arfer yn llenwi bwlch rhwng pob eitem. Mae'r digrifwr [[Idris Charles]] yn cofio trefnu nosweithiau yn niwedd y 1960au a'r 1970au gyda digrifwyr fel Dilwyn Edwards, [[Glan Davies]], Trefor Selway, Alun Lloyd, Mair Garnon a Peter Hughes Griffiths.<ref>{{dyf newyddion|url=http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/33973217|teitl="Glywsoch chi'r jôc?..."|dyddiad=18 Awst 2015|dyddiadcyrchu=15 Mawrth 2016|cyhoeddwr=BBC Cymru Fyw}}</ref>
 
Yn y 1970au a'r 1980au datblygodd arddull fodern stand-yp ar y cyd â chomedi angen, gyda mwy o bwyslais ar ddychan, wleidyddiaeth neu arsylwadau am fywyd. Yn y 1990au fe ddaeth stand-yp Cymraeg i sylw eto ac yn 1996 ac 1997 darlledwyd ''Y Jocars'' ar S4C, cyfres a gynhyrchwyd gan Idris Charles. Fe ymddangosodd mwy o ddigrifwyr Cymraeg yn y 2000au gyda llawer yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg yn yr un math o glybiau a digrifwyr eraill, er nad oedd hyn yn cael ei adlewyrchu ar deledu.<ref>{{dyf newyddion|url=http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/35802044|teitl=Y Beatles Cymraeg?|dyddiad=15 Mawrth 2016|cyhoeddwr=BBC Cymru Fyw}}</ref> Yn y 2010au darlledodd S4C sawl gyfres gomedi stand-up yn cynnwys ''GigL'', ''Gwerthu Allan'' a noson gomedi arbennig yn Eisteddfod 2013, ''Y Babell Lon''.
 
==Cyfeiriadau==