Sylvia Anderson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 11:
| body_discovered =
| resting_place =
| residence = Bray, Berkshire, Lloegr<ref name=Express>{{cite news |title=Sylvia Anderson: 'The press loved Penelope and that made Gerry jealous' |first=Stephen |last=Griffin |url=http://www.express.co.uk/news/showbiz/402733/Sylvia-Anderson-The-press-loved-Penelope-and-that-made-Gerry-jealous |newspaper=[[Daily Express]] |publisher=[[Express Newspapers]] |location=London |date=2013-05-26 May 2013 |accessdate=2013-08-14 August 2013 |archiveurl= |archivedate= |deadurl=}}</ref>
| alma_mater = [[Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain]]
| occupation = Cynhyrchydd ffilm a theledu, awdures, actor llais, dylunydd gwisgoedd
Llinell 26:
| website = {{URL|www.sylviaanderson.co.uk}}
}}
Actores, awdures a chynhyrchydd ffilm a theledu, Seisnig oedd '''Sylvia Anderson''' (née '''Thamm''', [[27 Mawrth]] [[1927]] – [[15 Mawrth]] [[2016]]) oedd yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith gyda [[Gerry Anderson]], ei gŵr rhwng 1960 ac 1981.<ref name="Space1999">{{Nodyn:Cite web|url=http://www.space1999.net/catacombs/main/crguide/vcpsa.html|title=Sylvia Anderson Biography|last=|first=|date=|publisher=Space1999.net|archiveurl=http://www.webcitation.org/6Ch2xwnKe|archivedate=5 December 2012|deadurl=No}}</ref>
 
Yn ogystal â chyd-greu a chyd-ysgrifennu eu cyfresi teledu yn ystod y 1960au a'r 1970au, prif gyfraniad Anderson oedd datblygu'r cymeriadau a dylunio'r gwisgoedd.<ref name="Express"/> Byddai'n cyfarwyddo'r sesiynau recordio llais yn rheolaidd, ac yn lleisio rhai cymeriadau benywaidd a phlant, yn arbennig y cymeriad Lady Penelope yn ''Thunderbirds''. Fe ysgarodd y cwpl ar ddechrau'r 1980au ar ôl iddynt wahanu am 5 mlynedd .<ref name="Space1999" />
 
Bu farw Anderson ar 15 Mawrth 2016, yn 88 mlwydd oed, yn dilyn salwch byr.<ref>{{dyf newyddion|url=http://www.theguardian.com/tv-and-radio/2016/mar/16/sylvia-anderson-obituary-thunderbirds-co-creator|teitl=Sylvia Anderson obituary: co-creator of Thunderbirds|iaith=en|gwaith=guardian.co.uk|dyddiad=16 Mawrth 2016}}</ref>
 
== Bywyd cynnar ==
Ganwyd Anderson yn Ne Llundain, [[Lloegr]] ar 27 Mawrth 1927. Roedd ei thad yn focsiwr penigamp a'i mam yn wniadwraig.<ref name=":1">{{Nodyn:Cite news|url=http://www.theguardian.com/tv-and-radio/2016/mar/16/thunderbirds-sylvia-anderson-voice-of-lady-penelope-dies-aged-88|title=Thunderbirds' Sylvia Anderson, voice of Lady Penelope, dies aged 88|last=Association|first=Press|date=2016-03-16|newspaper=The Guardian|language=en-GB|issn=0261-3077|access-date=2016-03-16}}</ref>
 
Ar ôl graddio o [[Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain]]<ref name="Express"/> gyda gradd mewn economeg a chymdeithaseg, daeth yn [[Gwaith cymdeithasol|weithiwr cymdeithasol]]. Ymfudodd i'r [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]] i fyw gyda'i gŵr cyntaf, golffiwr Americanaidd.<ref name="Space1999" /> Tra oedd yn America, gweithiodd fel newyddiadurwr.<ref name=":0">{{Nodyn:Cite web|url=http://www.bbc.com/news/entertainment-arts-35818530|title=Sylvia Anderson, voice of Thunderbirds' Lady Penelope, dies - BBC News|website=BBC News|language=en-GB|access-date=2016-03-16}}</ref>
 
== Gyrfa ==
Ar ôl dychwelyd i'r [[Y Deyrnas Unedig|Deyrnas Unedig]] gyda merch, ymunodd Anderson a'r cwmni newydd ond byrhoedlog, Polytechnic Films fel ysgrifenyddes yn 1957.<ref name="Express"/><ref name="Space1999" /> Yno, cyfarfu [[Gerry Anderson]], golygydd a chyfarwyddwr.<ref name="Space1999" /> Yr un flwyddyn, yn dilyn cwymp Polytechnic, ffurfiodd Anderson a Arthur Provis gwmni AP Films, ac fe ymunodd â nhw ar fwrdd cyfarwyddwr y cwmni newydd, ynghyd â'i chydweithwyr John Read a Reg Hill.<ref name="Express"/><ref name="Space1999" /> Priododd y cwpl yn 1960, ac ar ôl hynny, cafodd ddyletswyddau ehangach ar waith cynhyrchu.<ref name="Express"/><ref name="Space1999" />
 
Fe ddaeth partneriaeth greadigol yr Andersons i ben pan chwalodd eu priodas yn ystod cynhyrchu cyfres gyntaf ''Space: 1999'' yn 1975.<ref name="Space1999" /> Cyhoeddodd Gerry ei fwriad i wahanu ar noswaith y parti cloi,<ref name="SAbio">{{Nodyn:Cite book|author=Sylvia Anderson|title=Yes M'Lady|year=1991|publisher=Smith Gryphon|isbn=1-85685-011-0}}</ref><ref name="GAbio-171">{{Nodyn:Cite book|author=Simon Archer, [[Stan Nicholls]]|title=Gerry Anderson: the Authorised Biography|year=1996|publisher=[[Legend Books]]|page=171|isbn=0-09-978141-7}}</ref> ac yn dilyn hynny fe wnaeth Sylvia dorri ei chysylltiad gyda'r cwmni, a oedd erbyn hyn wedi ei ailenwi gyda'r enw Group Three. Yn 1983, cyhoeddodd nofel gyda'r teitl ''Love and Hisses''<ref name="Space1999" /> ac yn 1994, fe ail-gydiodd yn ei rhan yn lleisio Lady Penelope ar gyfer pennod o ''[[Absolutely Fabulous]]''. Bu'n gweithio fel chwilotwr talent yn Llundain ar gyfer [[HBO]] am 30 mlynedd.<ref name="Express"/><ref name="Space1999" />
[[Delwedd:Lady_Penelope.jpg|thumb|Lady Penelope, cymeriad yn ''Thunderbirds'' a leisiwyd gan Anderson]]
Cyhoeddwyd ei hunangofiant ''Yes M'Lady'' gyntaf yn 1991;<ref name="SAbio">{{Nodyn:Cite book|author=Sylvia Anderson|title=Yes M'Lady|year=1991|publisher=Smith Gryphon|isbn=1-85685-011-0}}</ref> a fe'i hail-gyhoeddwyd fel ''My FAB Years '' yn 2007<ref>{{Nodyn:Cite book|author=Sylvia Anderson|title=My FAB Years|year=2007|publisher=Hermes Press|isbn=1-932563-91-1}}</ref> gyda deunydd newydd i gynnwys hanes diweddaraf, fel ei gwaith yn ymgynghorydd cynhyrchu ar yr addasiad ffilm o ''Thunderbirds'' yn 2004. Rhyddhawyd ''My FAB Years'' ar ffurf CD yn 2010, wedi ei leisio gan Anderson.<ref>{{Nodyn:Cite web|url=http://www.sylviaanderson.org.uk/html/my_fab_years_audiobook.html|title=''My FAB Years'' &ndash; the Audiobook|publisher=SylviaAnderson.org.uk|accessdate=24 February 2011-02-24}}</ref><ref>{{Nodyn:Cite web|url=http://www.amazon.com/My-FAB-Years/dp/B00355ARE6/|title=''My FAB Years'' &ndash; Abridged &ndash; Audible Audio Edition|publisher=[[Amazon.com]]|accessdate=24 February 2011-02-24}}</ref>
 
Yn 2013, gweithiodd Anderson gyda'i merch Dee, cantores [[jazz]], ar syniad newydd am raglen deledu<ref name="Express"/> o'r enw "The Last Station". Fe wnaethon nhw sefydlu ymgyrch godi arian torfol ar [http://igg.me/at/the-last-station-tv-series Indiegogo] er mwyn i ddilynwyr gyfrannu a bod yn rhan o'r gyfres.
 
Roedd Anderson yn adnabyddus hefyd am ei gwaith elusennol, yn enwedig yn cefnogi [[Gofal Cancr y Fron]]<ref name=":0">{{Nodyn:Cite web|url=http://www.bbc.com/news/entertainment-arts-35818530|title=Sylvia Anderson, voice of Thunderbirds' Lady Penelope, dies - BBC News|website=BBC News|language=en-GB|access-date=2016-03-16}}</ref> a Barnardo's.<ref>{{Nodyn:Cite web|url=http://glotime.tv/sylvia-anderson-leads-safety-campaign-families-jackloc/|title=Sylvia Anderson Leads Safety Campaign for Families with Jackloc - GloTIME|website=GloTIME|language=en-GB|access-date=2016-03-16}}</ref>
 
=== Cydnabyddiaethau ===
Yn 2015, teithiodd Anderson i'r [[Yr Eidal|Eidal]] i dderbyn Gwobr Pulcinella i gydnabod ei gyrfa mewn cynhyrchu teledu.<ref>{{Nodyn:Cite web|url=http://www.studiohari.com/news/the-owl-co-awarded-at-venice?lang=fr|title="La Chouette & cie" récompensée à Venise — News — Studio Hari|website=www.studiohari.com|access-date=2016-03-16}}</ref><ref>{{Nodyn:Cite web|url=http://www.sylviaanderson.org.uk/sylvia-anderson-presented-with-the-special-pulcinella-award/|title=Sylvia Anderson presented with the Special Pulcinella Award|website=Sylvia Anderson|language=en-US|access-date=2016-03-16}}</ref>
 
== Bywyd personol ==
Cafodd ddau blentyn gyda Gerry Anderson: merch. Dee Anderson a mab, Gerry Anderson Jr.<ref name=":1">{{Nodyn:Cite news|url=http://www.theguardian.com/tv-and-radio/2016/mar/16/thunderbirds-sylvia-anderson-voice-of-lady-penelope-dies-aged-88|title=Thunderbirds' Sylvia Anderson, voice of Lady Penelope, dies aged 88|last=Association|first=Press|date=2016-03-16|newspaper=The Guardian|language=en-GB|issn=0261-3077|access-date=2016-03-16}}</ref>
 
== Teledu ==