Byddin Dinasyddion Iwerddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
ehangu
Llinell 31:
}}
Grŵp o ddinasyddion [[Iwerddon|Gwyddelig]], o'r [[Undeb llafur|Undebau llafur]] yn bennaf oedd '''Byddin Dinasyddion Iwerddon''' ([[Gwyddeleg]]: ''Arm Cathartha na hÉireann''; [[Saesneg]]: ''Irish Citizen Army''), neu'r '''ICA'''. Aelodau o'r ''Irish Transport and General Workers' Union'' yn [[Dulyn|Nulyn]] oedd sefydlwyr y Fyddin, yn bennaf, ac yn eu plith roedd: [[James Larkin]], [[James Connolly]] a [[Jack White]] ar 23 Tachwedd 1913.<ref>Charles Townshend, "Easter 1916: The Irish Rebellion", tud.41.</ref> Aelodau nodedig eraill oedd: [[Seán O'Casey]], Constance Markievicz, Francis Sheehy-Skeffington a P. T. Daly. Yn 1916, bu aelodau'r fyddin yn rhan o [[gwrthryfel y Pasg|Wrthryfel y Pasg]] - gwrthryfel yn erbyn byddin a hawl Prydain i reoli [[Iwerddon]].<ref>Townshend, tud.46.</ref>
 
==Y 'Locawt'==
Ffurfiwyd y fyddin o ganlyniad i streic yr ''Irish Transport and General Workers Union'' yn 1913, a adnabyddid yn lleol fel ''the Dublin Lockout''. Achos y streic oedd penderfyniad y diwydiannwr William Martin Murphy ar 19 Awst 1913 i atal gweithwyr a oedd yn aelodau o'r undeb rhag dod i'r gwaith. Dilynwyd ei esiampl gan gwmnioedd eraill. Galwodd Larkin, a oedd yn undebwr rhonc, am streic ar reilffyrdd a thramiau'r ddinas (sef y ''Dublin United Tramway Company'') a chynyddodd eu rhengoedd fel caseg eira, hyd nes bod 25,000 o weithwyr ar streic. Er mwyn amddiffyn eu hunain ffurfiodd y streicwyr grwpiau o 'filisia' (neu 'lled-filwyr') er mwyn gwarchod hawliau'r streicwyr a phenodwyd swyddogion yn eu plith. Arestiwyd Larkin a chymerodd ei Ddirprwy, [[James Connolly]], afael yn y llyw. Sefydlodd bedair catrawd o ddynion a rhoddwyd arfau iddynt.
 
Yn economaidd, parlyswyd Dulyn gan y streic, a bu cryn derfysgoedd ar y strydoedd: rhwng y streicwyr a Heddlu Metropolitan Iwerddon, yn enwedig yn Stryd OConnel ar 31 Awst, pan gurwyd dau ddyn a'u lladd ac anafwyd 500 o bobl; bu farw trydydd yn ddiweddarach o'i glwyfau.<ref>Yeates, P Lockout: Dublin 1913, Gill and Macmillan, Dublin, 2000, Pages 497-8</ref> Ffyn (''hurleys'' a ddefnyddid yn y gêm 'hurling' traddodiadol) oedd arfau'r dinasyddion i amddiffyn eu hunain. Hyfforddwyd byddin fechan Connolly gan [[James White]] undebwr llafur a oedd wedi treulio cyfnod yn gapten yn y fyddin Brydeinig. Rhoddodd bâr o esgidiau da i bob un oedd yn eu recriwtio.
 
Yn Ionawr, wedi cyfnod o chwe mis, dychwelodd y streicwyr yn ôl i'w gwaith; methiant oedd eu hymdrech, ond bu ffurfio 'Byddin y Dinasyddion' yn llwyddiant ysgubol i'r ymgyrch dros annibyniaeth i Iwerddon.
 
==Gweler hefyd==