Constance Markievicz: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
==Bywyd Cynnar==
Cafodd Markievicz ei eni fel Constance Georgine Gore-Booth yn Buckingham Gate, [[Llundain]], yn ferch hynaf i'r anturiaethwr Syr Henry Gore-Booth, 5ed Barwnig a Georgina, Ledi Gore-Booth née Hill ei wraig. Roedd Syr Henry yn landlord Eingl-Wyddelig gydag ystâd 100 km2 (39 milltir sgwar), Lissadell House, ger [[Sligeach]].<ref>Lissadell House and Gardens ''Countess Markievicz'' [http://lissadellhouse.com/countess-markievicz/] adalwyd 20 Mawrth 2016</ref> Yn ystod [[Newyn Mawr Iwerddon]] 1879-1880, darparodd Syr Henry bwyd rhad ac am ddim ar gyfer tenantiaid ar ei stad.
 
[[File:countessmarkieviczandchildren.jpg|thumb|chwith|Iarlles Markievicz, ei merch a'i llysfab]]
Llinell 35:
1868-1927''[http://www.bbc.co.uk/history/british/easterrising/profiles/po10.shtml] adalwyd 20 Mawrth 2016</ref>
 
Llwyddodd cyd filwyr Markievicz amddiffyn eu safle am chwe diwrnod gan roi'r gorau i'r frwydro ar ôl derbyn copi o orchymyn ildio Pearse<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3688240|title=Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd - Y Llan|date=1916-05-05|accessdate=2016-03-20|publisher=J. Morris}}</ref>. Roedd y swyddog Saesnig a dderbyniodd eu hildiant, Capten Wheeler, yn briod â chyfnither Markievicz.
[[File:(Ireland) Dublin Castle Up Yard.JPG|thumb|300px|Castell Dulyn]]
Cawsant eu gludo i Gastell Dulyn ac yna chafodd Markievicz ei chludo i Garchar Kilmainham. Ymddangosodd o flaen Llys Milwrol ar 4 Mai 1916 plediodd yn ddieuog i gyhuddiad o "''gymryd rhan mewn gwrthryfel arfog ... at y diben o gynorthwyo'r gelyn"'' ond yn euog o fod wedi ceisio "''i achosi anfodlonrwydd ymhlith poblogaeth sifil Ei Mawrhydi",'' fel lliniariad am y drosedd dywedodd wrth y llys'', "gwnes yr hyn roeddwn i'n meddwl oedd yn gyfiawn ac yr wyf yn sefyll wrth y peth"''. Cafodd ei dedfrydu i farwolaeth ond cafodd y ddedfryd ei gymudo i garchar am oes gan ei bod hi'n fenyw; trugaredd nad oedd hi'n gwerthfawrogi gan ei bod yn casáu gwahaniaethu ar sail rhiw<ref> Cork City Gaol ''Countess Constance Markievicz''[http://corkcitygaol.com/about/famous-people/countess-constance-markievicz/] adalwyd 20 Mawrth 2016</ref>.
 
Cafodd Markievicz ei throsglwyddo i Garchar Mountjoy ac yna i Garchar Aylesbury yn Lloegr ym mis Gorffennaf 1916. Cafodd ei ryddhau o'r carchar ym 1917 o ganlyniad i amnest cyffredinol i'r sawl fu'n rhan o'r gwrthryfel. Tra yn y carchar daeth yr Iarlles, a magwyd yn [[Protestant|Brotestant]], yn aelod o'r [[Eglwys Gatholig]].