Constance Markievicz: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 46:
 
Defnyddiodd Sinn Féin [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918]] fel mwys am etholiad i Senedd Gweriniaeth yr Iwerddon Rhydd, trwy hynny daeth y 73 o'i aelodau a etholwyd yn [[Aelodau Seneddol]] Prydeinig yn aelodau cyntaf [[Dáil Éireann]], gan hynny daeth yr Iarlles y [[Teachta Dála]] benywaidd cyntaf hefyd.
 
Roedd Markievicz yng Ngharchar Holloway pan ymgynullodd y Dáil cyntaf, pan alwyd ei henw i gofrestru, cafodd ei ddisgrifio, fel llawer o'r rhai eraill a etholwyd, yn un oedd ''wedi carcharu gan y gelyn tramor (fe glas ag Gallaibh)''. Cafodd ei hailethol i'r Ail Dáil yn etholiadau 1921.
 
Bu Markievicz yn gwasanaethu fel Gweinidog Llafur Iwerddon o fis Ebrill 1919 hyd Ionawr 1922 yn Ail a Thrydedd Weinidogaeth y Dáil; y Gweinidog Cabinet benywaidd Gwyddelig cyntaf a'r ail weinidog benywaidd yn Ewrop. Hi oedd yr unig weinidog cabinet benywaidd yn hanes yr Iwerddon hyd benodi Máire Geoghegan-Quinn yn Weinidog y Gaeltacht ym 1979!
 
==Cyfeiriadau==