Constance Markievicz: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 53:
==Y Rhyfel Cartref a Fianna Fail==
 
Gadawodd Markievicz y llywodraeth ym mis Ionawr 1922, fel gwnaeth [[Éamon de Valera]], ac eraill, mewn gwrthwynebiad i'r Cytundeb Eingl-Wyddelig. Bu hi'n ymladd ar yr achos Weriniaethol yn [[Rhyfel Cartref Iwerddon]] gan helpu i amddiffyn Gwesty Moran yn Nulyn. Ar ôl y Rhyfel aeth hi ar daith i'r Unol Daleithiau. Ni chafodd ei hethol yn etholiad cyffredinol Iwerddon 1922 ond fe'i dychwelwyd yn etholiad cyffredinol 1923 ar gyfer etholaeth De Dulyn. Megis yr ymgeiswyr Weriniaethol eraill, ni chymerodd ei sedd.
 
Bu i'w barn weriniaethol bybyr ei harwain at gael ei charcharu eto. Yn y carchar, aeth hi a 92 o garcharorion benywaidd eraill ar streic newyn. O fewn mis, cafodd ei ryddhau