Philip Jones Griffiths: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
Astudiodd i fod yn [[fferyllydd]] yn [[Lerpwl]], a thra'n gweithio yn [[Llundain]], bu'n ffotograffydd rhan-amser gyda phapur newydd y [[Guardian]]. Yn 1961 daeth yn ffotograffydd llawrydd llawn amser. Aeth i [[Algeria]] yn 1962 i dynnu lluniau yn ystod [[Rhyfel Annibyniaeth Algeria|rhyfel annibyniaeth]] y wlad gyda [[Ffrainc]]. Yna aeth i ganol Affrica, ac wedyn i Asia, gan dynnu lluniau yn [[Fietnam]] rhwng 1966 a 1971 ar gyfer asiantaeth lluniau [[Magnum Photos|Magnum]].
 
Tra yn Fietnam fe dynnodd luniau yn cofnodi'r [[Rhyfel Fiet Nam|rhyfel]] yno. Oherwydd natur ei luniau, roedd Magnum yn cael trafferth gwerthu ei luniau i bapurau newydd yn America, ond llwyddodd Griffiths i gael sgŵp gyda llun o [[Jackie Kennedy]] (gwraig [[John F. Kennedy]]) ar wyliau yn [[Cambodia]] gyda chyfaill o ddyn. Fe wnaeth yr incwm o luniau fel hunhyn ei alluogi i barhau i dynnu lluniau'n cofnodi'r rhyfel a chafodd y rhain eu cyhoeddi mewn llyfr o'r enw ''Vietnam inc.'' yn 1971. Yn ogystal a bod yn un o'r cofnodion mwyaf manwl o unrhyw ryfel, mae'r llyfr hefyd yn gofnod o ddiwylliant Fietnam dan warchae. Chwaraeodd y llyfr hwn ran flaenllaw yn crisialu barn gyhoeddus am ddoethineb ymyrraeth yr [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]] yn Fietnam, ac fe gafodd ei ailgyhoeddi yn [[2001]] gyda rhagair gan [[Noam Chomsky]].<ref>[http://www.democracynow.org/2002/1/24/vietnam_inc_part_ii_a_photo Vietnam Inc. Part II: A Photo-Journey Through the Villages, Fields, and Alleys of A devastated Nation] Democracy Now, [[24 Ionawr]], [[2002]]</ref>
 
Yn 1973 fe fu'n cofnodi [[rhyfel Yom Kippur]] a gweithiodd yn Cambodia rhwng 1973 a 1975. Symudodd i [[Efrog Newydd]] yn 1980 i fod yn gadeirydd Magnum, a bu'n gadeirydd am 5 mlynedd, sef y cyfnod hiraf i neb fod yn gadeirydd Magnum hyd yma.