George Noble Plunkett: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
Derbyniodd Plunkett ei addysg gynradd mewn ysgol yn [[Nice]] (lle daeth yn rhugl yn y Ffrangeg a'r Eidaleg), Ysgol y Tadau Oblate yn Upper Mount Street, [[Dulyn]] (1863-7), Coleg Clongowes Wood, co. Kildare (1867-9), ac o 1872 [[Prifysgol Dulyn]], lle fu'n astudio'r gyfraith. Roedd lwfans hael gan ei dad yn caniatáu iddo bentyrru gwybodaeth ar y [[Dadeni Dysg|Dadeni]] a chelf ganoloesol, wrth ohirio sefyll arholiadau terfynol y gyfraith tan 1884, cafodd ei alw i'r bar yn [[y Deml Ganol]] ym 1886. <ref>(Count Plunkett) George Noble Plunkett [http://www.ricorso.net/rx/az-data/authors/p/Plunkett_GN/life.htm] adalwyd 21 Mawrth 2016</ref>
 
===Priodas===
Priododd Plunkett Josephine Cranny (1858-1944) ar 26 Mehefin 1884. Bu iddynt saith o blant: Philomena (Mimi 1886-1926), Joseph Mary (1887-1916), Mary Josephine (Moya 1889-1928), Geraldine (1891 - 1986), George Oliver (1894-1944), Josephine Mary Jane (Fiona 1896-1976), a John (Jack 1897-1960). Yn ôl Geraldine doedd yr Iarll a'r Iarlles ddim yn rhieni da, yn amddifadu'r plant o addysg bwyd a chariad. <ref> Independent.ie 26 Tachwedd 2006 Feeding a great hatred with fervour [http://www.independent.ie/entertainment/books/feeding-a-great-hatred-with-fervour-26418972.html]</ref>
 
===Anrhydeddau===
Ym 1884 cafodd ei greu Iarll Pab gan y [[Pab Leo XIII]] am gyfrannu arian ac eiddo i Chwiorydd Mair Fychan, urdd nyrsio Gatholig. Yr oedd yn Farchog yn Urdd y Bedd Sanctaidd<ref>Urdd y Bedd Sanctaidd IE''Notable Irish Members (Historic): George, Count Plunkett'' [http://www.holysepulchre.ie/index.php/history-of-the-irish-lieutenancy/49-plunkett] adalwyd 21 Mawrth 2016</ref>