George Noble Plunkett: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 30:
== Gyrfa Wleidyddol ==
Roedd yr Iarll Plunkett yn cefnogi plaid genedlaethol Charles Stuart Parnell, ''The Irish National League'' a safodd fel ymgeisydd i'r blaid ar dri achlysur. Safodd yn etholaeth Canol Tyrone yn etholiad Genedlaethol 1892 gan ddod ar waelod y pôl gyda 1.9% o'r bleidlais. Daeth yn agos llwyddiant yn etholaeth St Stephen's Green Dulyn, a ymladdodd yn aflwyddiannus fel yr unig ymgeisydd cenedlaetholgar yn etholiad cyffredinol 1895 ac mewn isetholiad yn 1898 gan dorri mwyafrif yr Unoliaethwyr i 138 o bleidleisiau. Galluogodd ei waith yn yr etholaeth i'r blaid genedlaethol unedig ''The Irish Parliamentary Party'' i gipio'r sedd ym 1900.<ref>Parliamentary Election Results in Ireland, 1801–1922, gol B.M. Walker (Royal Irish Academy 1978)</ref>
Er ei fod wedi sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad doedd o ddim yn cael ei hystyried yn genedlaetholwr amlwg. Roedd ei ddiddordebau pennaf yn hyrwyddo'r celfyddydau. Roedd yn gwasanaethu Academi Brenhinol Iwerddon fel is lywydd ym 1907-8 ac eto o 1911 i 1914. Roedd yn aelod o banel dyfarnu [[Gwobr Llenyddiaeth Nobel]], yn Aelod o Gymdeithas Sbaenaidd yr UDA. Roedd yn un o sefydlwyr Academi Genedlaethol Iwerddon, yn llywydd Cymdeithas Cadwraeth yr Iaith Wyddelig ac fe fu yn is-lywydd Gymdeithas Lenyddol Iwerddon, Cymdeithas Clasurol Iwerddon, Y Gyngres Geltaidd a Chyngres Rhyngwladol y Celfyddydau ac yn aelod o Gymdeithas Frenhinol Dulyn.
==Cyfeiriadau==
|