George Noble Plunkett: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 32:
 
Er ei fod wedi sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad doedd o ddim yn cael ei hystyried yn genedlaetholwr amlwg. Roedd ei ddiddordebau pennaf yn hyrwyddo'r celfyddydau. Roedd yn gwasanaethu Academi Brenhinol Iwerddon fel is lywydd ym 1907-8 ac eto o 1911 i 1914. Roedd yn aelod o banel dyfarnu [[Gwobr Llenyddiaeth Nobel]], yn Aelod o Gymdeithas Sbaenaidd yr UDA. Roedd yn un o sefydlwyr Academi Genedlaethol Iwerddon, yn llywydd Cymdeithas Cadwraeth yr Iaith Wyddelig ac fe fu yn is-lywydd Gymdeithas Lenyddol Iwerddon, Cymdeithas Clasurol Iwerddon, Y Gyngres Geltaidd a Chyngres Rhyngwladol y Celfyddydau ac yn aelod o Gymdeithas Frenhinol Dulyn.<ref name=":0" />
 
Trechwyd y Gwrthryfel, cafodd Joseff ei ddienyddio, a chafodd dau fab arall yr Iarll eu dedfrydu i farwolaeth cyn i'r dyfarniad cael ei gymudo i ddeng mlynedd o garchar efo llafur caled. Er na wyddai'r awdurdodau am ei genhadaeth dros y frawdoliaeth, penderfynodd yr awdurdodau i drin teuluoedd y gwrthryfelwyr yn hallt. Collodd yr Iarll ei swydd, cafodd ei ddiarddel o Gymdeithas Frenhinol Dulyn a chafodd ef a'r Iarlles eu halltudio i Rydychen; llwyddodd y ffordd triniwyd ef a'i deulu i'w radacaleiddio a fu'n gweriniaethwr brwd a phybyr am weddill ei oes.
 
Ym mis Rhagfyr 1916 bu farw James O'Kelly [[AS]] Gogledd Roscommon ac enwebwyd yr Iarll i sefyll yn yr isetholiad i ganfod olynydd iddo, dychwelodd i'r Iwerddon yn anghyfreithlon ar 31 Ionawr, ac enillodd y sedd yn hawdd tri diwrnod yn ddiweddarach. Cyhoeddodd y byddai'n ymatal rhag mynychu Senedd [[San Steffan]], cyhoeddwyd ei resymeg mewn llyfryn ''Count Plunkett: the man and his message'' gan Louis George Reddy (a'r gael i'w ddarllen ar lein.<ref>Internet Archive [https://archive.org/stream/countplunkettman00redd#page/n0/mode/2up] adalwyd 20 Mawrth 2016</ref>)
 
==Cyfeiriadau==