George Noble Plunkett: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 1:
Roedd '''George Noble Plunkett, Iarll Plunkett''' (''An Cunta Pluincéid''); yn y bendefigaeth Pabaidd (3 Rhagfyr 1851 - 12 Mawrth 1948) yn hanesydd celf, yn wleidydd Gwyddelig gweriniaethol ac yn dad i [[Seosamh Máire Pluincéid]] un o ferthyron [[Gwrthryfel y Pasg]].<ref name=":1">D. R. O'Connor Lysaght, ‘Plunkett, George Noble, Count Plunkett in the papal nobility (1851–1948)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 [http://www.oxforddnb.com/view/article/54747, adalwyd 20 Mawrth 2016]</ref>
 
==Cefndir==
Llinell 35:
Trechwyd y Gwrthryfel, cafodd Joseff ei ddienyddio, a chafodd dau fab arall yr Iarll eu dedfrydu i farwolaeth cyn i'r dyfarniad cael ei gymudo i ddeng mlynedd o garchar efo llafur caled. Er na wyddai'r awdurdodau am ei genhadaeth dros y frawdoliaeth, penderfynodd yr awdurdodau i drin teuluoedd y gwrthryfelwyr yn hallt. Collodd yr Iarll ei swydd, cafodd ei ddiarddel o Gymdeithas Frenhinol Dulyn a chafodd ef a'r Iarlles eu halltudio i Rydychen; llwyddodd y ffordd triniwyd ef a'i deulu i'w radacaleiddio a fu'n gweriniaethwr brwd a phybyr am weddill ei oes.
 
Ym mis Rhagfyr 1916 bu farw James O'Kelly [[AS]] Gogledd Roscommon ac enwebwyd yr Iarll i sefyll yn yr isetholiad i ganfod olynydd iddo, dychwelodd i'r Iwerddon yn anghyfreithlon ar 31 Ionawr, ac enillodd y sedd yn hawdd tri diwrnod yn ddiweddarach. Cyhoeddodd y byddai'n ymatal rhag mynychu Senedd [[San Steffan]], cyhoeddwyd ei resymeg mewn llyfryn ''Count Plunkett: the man and his message'' gan Louis George Reddy (a'r gael i'w ddarllen ar lein.<ref>Internet Archive [https://archive.org/stream/countplunkettman00redd#page/n0/mode/2up] adalwyd 20 Mawrth 2016</ref>). Sefydlodd Cynghrair Rhyddid i geisio sefydlu gweriniaeth arfaethedig 1916 trwy ymataliaeth, a chynhaliwyd cyfarfod a sefydlodd ffrynt eang rhwng ei gynghrair a grwpiau o genedlaetholwr mwy radical megis [[Sinn Féin]]. Ym mis Hydref daeth y ffrynt yn blaid, gan ddefnyddio'r enw Sinn Féin. Bu penderfyniad Plunkett yn un bellgyrhaeddol, gwrthododd y 73 o aelodau Sinn Féin a etholwyd yn etholiad cyffredinol 1918 i gymryd ei seddau ac i eistedd fel senedd yr Iwerddon; ac nid yw ASau Sinn Féin o [[Gogledd Iwerddon|Ogledd Iwerddon]] yn derbyn eu seddau seneddol hyd heddiw.<ref name=":1" />
 
==Cyfeiriadau==