George Noble Plunkett: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 36:
 
Ym mis Rhagfyr 1916 bu farw James O'Kelly [[AS]] Gogledd Roscommon ac enwebwyd yr Iarll i sefyll yn yr isetholiad i ganfod olynydd iddo, dychwelodd i'r Iwerddon yn anghyfreithlon ar 31 Ionawr, ac enillodd y sedd yn hawdd tri diwrnod yn ddiweddarach. Cyhoeddodd y byddai'n ymatal rhag mynychu Senedd [[San Steffan]], cyhoeddwyd ei resymeg mewn llyfryn ''Count Plunkett: the man and his message'' gan Louis George Reddy (a'r gael i'w ddarllen ar lein.<ref>Internet Archive [https://archive.org/stream/countplunkettman00redd#page/n0/mode/2up] adalwyd 20 Mawrth 2016</ref>). Sefydlodd Cynghrair Rhyddid i geisio sefydlu gweriniaeth arfaethedig 1916 trwy ymataliaeth, a chynhaliwyd cyfarfod a sefydlodd ffrynt eang rhwng ei gynghrair a grwpiau o genedlaetholwr mwy radical megis [[Sinn Féin]]. Ym mis Hydref daeth y ffrynt yn blaid, gan ddefnyddio'r enw Sinn Féin. Bu penderfyniad Plunkett yn un bellgyrhaeddol, gwrthododd y 73 o aelodau Sinn Féin a etholwyd yn etholiad cyffredinol 1918 i gymryd ei seddau ac i eistedd fel senedd yr Iwerddon; ac nid yw ASau Sinn Féin o [[Gogledd Iwerddon|Ogledd Iwerddon]] yn derbyn eu seddau seneddol hyd heddiw.<ref name=":1" />
 
Ar 18 Mai 1918 cafodd Plunkett ei ddalgadw eto. Cafodd ei ryddhau wedi tirlithriad Sinn Féin yn yr etholiad cyffredinol. Ar 17 Ionawr 1919 bu'n llywyddu dros gyfarfod i gynllunio ar gyfer y senedd weriniaethol, [[Dáil Éireann]], ac yn y sesiwn agoriadol y Dáil ar y 21ain. Y diwrnod olynol penodwyd ef yn weinidog dros faterion tramor gan Cathal Brugha yn ei gabinet dros dro, penodiad a gafodd ei gadarnhau gan [[Eamonn de Valera]] ar 10 Ebrill. Ar 26 Awst penodwyd Plunkett yn weinidog y celfyddydau, swydd y tu allan i'r cabinet.
 
Fel gweinidog y celfyddydau bu'n paratoi dathliad i gofio chwe chanmlwyddiant marwolaeth [[Dante Alighieri]], ond cafodd y paratoadau eu cysgodi gan gyhoeddi'r cytundeb gyda Phrydain oedd am rannu'r Iwerddon. Bu Plunkett yn wrthwynebydd i'r cytundeb gan ddweud ''nad dros Iwerddon ranedig y bu farw fy mab''. Cadeiriodd y blaid wrth gytundeb, Cumman na Poblachta, a chafodd ei drechu yn yr etholiad cyffredinol mis Mehefin 1922.
 
Am ei wrthwynebiad i'r cytundeb cafodd Plunkett ei ddalgadw gan Lywodraeth Iwerddon gan gael ei ryddhau ym mis Rhagfyr 1923.
 
==Marwolaeth==
Bu farw Plynkett o gancr a henaint, yn ei gartref, 42 Upper Mount Street, Dulyn yn 96 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion yn llain weriniaethol [[mynwent Glasnevin]], Dulyn, y diwrnod canlynol. Etifeddwyd yr Iarllaeth gan ei ŵyr Joseph Plunkett mab George.
 
==Cyfeiriadau==