George Noble Plunkett: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 9:
 
===Priodas===
Priododd Plunkett Josephine Cranny (1858-1944) ar 26 Mehefin 1884. Bu iddynt saith o blant: Philomena (Mimi 1886-1926), Joseph Mary (1887-1916), Mary Josephine (Moya 1889-1928), Geraldine (1891 - 1986), George Oliver (1894-1944), Josephine Mary Jane (Fiona 1896-1976), a John (Jack 1897-1960). Yn ôl Geraldine doedd yr Iarll a'r Iarlles ddim yn rhieni da, yn amddifadu'r plant o addysg bwyd a chariad. <ref> Independent.ie 26 Tachwedd 2006 Feeding a great hatred with fervour [http://www.independent.ie/entertainment/books/feeding-a-great-hatred-with-fervour-26418972.html]</ref> yn ei gerdd ''Witless'' mae [[Seosamh Máire Pluincéid|Joseph Plunkett]] yn crybwyll yr un peth:
''When I was but a child Too inocent and small To know of aught but love I knew no love at all''
 
===Anrhydeddau===
Llinell 15 ⟶ 16:
 
==Gyrfa==
Ar ei briodas derbyniodd rhodd o dir trefol, daeth ei brif incwm o ddatblygu a rhentu'r tir<ref>Honor O Brolchain ''Joseph Plunkett: 16Lives'' The O'Brien Press 2012 ISBN: 1847172695</ref>. Gwasanaethodd fel cyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol y Gwyddorau a'r Celfyddydau, Dulyn; swydd dan nawdd [[Llywodraeth Prydain]]<ref>Reddy, Louis George, 1917 t 1 ''Count Plunkett : the man and his message''[https://archive.org/stream/countplunkettman00redd#page/n3/mode/2up]</ref> o 1907, hyd ei ddiswyddo am gefnogi Gwrthryfel y Pasg ym 1916. Ategai at ei incwm trwy ddarlithio ac ysgrifennu.<ref name=":0">‘PLUNKETT, George Noble, Count (Papal hereditary)’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 [http://www.ukwhoswho.com/view/article/oupww/whowaswho/U230508, accessed 20 March 2016]</ref>
 
===Cyhoeddiadau===
Llinell 32 ⟶ 33:
Roedd yr Iarll Plunkett yn cefnogi plaid genedlaethol [[Charles Stewart Parnell]], ''The Irish National League'' a safodd fel ymgeisydd i'r blaid ar dri achlysur. Safodd yn etholaeth Canol Tyrone yn etholiad Genedlaethol 1892 gan ddod ar waelod y pôl gyda 1.9% o'r bleidlais. Daeth yn agos i lwyddiant yn etholaeth St Stephen's Green Dulyn, a ymladdodd yn aflwyddiannus fel yr unig ymgeisydd cenedlaetholgar yn etholiad cyffredinol 1895 ac mewn isetholiad yn 1898 gan dorri mwyafrif yr Unoliaethwyr i 138 o bleidleisiau<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3685007|title=Etholiad Dublin - Y Llan|date=1898-01-28|accessdate=2016-03-21|publisher=J. Morris}}</ref>. Galluogodd ei waith yn yr etholaeth i'r blaid genedlaethol unedig [[Y Blaid Seneddol Wyddelig]] i gipio'r sedd ym 1900.<ref>Parliamentary Election Results in Ireland, 1801–1922, gol B.M. Walker (Royal Irish Academy 1978)</ref>
 
Er ei fod wedi sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad doedd o ddim yn cael ei hystyried yn genedlaetholwr amlwg. Roedd ei ddiddordebau pennaf yn hyrwyddo'r celfyddydau. Roedd yn gwasanaethu Academi Brenhinol Iwerddon fel is lywydd ym 1907-8 ac eto o 1911 i 1914. Roedd yn aelod o banel dyfarnu [[Gwobr Llenyddiaeth Nobel]], yn Aelod o Gymdeithas Sbaenaidd yr UDA. Roedd yn un o sefydlwyr Academi Genedlaethol Iwerddon, yn llywydd Cymdeithas Cadwraeth yr Iaith Wyddelig ac fe fu yn is-lywydd Gymdeithas Lenyddol Iwerddon, Cymdeithas Clasurol Iwerddon, Y Gyngres Geltaidd<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/4209709|title=CELTIC ASSOCIATIONI - Evening Express|date=1909-10-11|accessdate=2016-03-21|publisher=Walter Alfred Pearce}}</ref> a Chyngres Rhyngwladol y Celfyddydau ac yn aelod o [[Gorsedd y Beirdd|Orsedd y Beirdd]]<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3462911|title=PAN CELTIC MOVEMENT - Evening Express|date=1899-08-15|accessdate=2016-03-21|publisher=Walter Alfred Pearce}}</ref> a Chymdeithas Frenhinol Dulyn.<ref name=":0" /><ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/4122079|title=Notitle - Abergavenny Chronicle|date=1917-01-26|accessdate=2016-03-21|publisher=Abergavenny Chronicle Ltd.}}</ref>
 
Trechwyd y Gwrthryfel, cafodd Joseff ei ddienyddio, a chafodd dau fab arall yr Iarll eu dedfrydu i farwolaeth cyn i'r dyfarniad cael ei gymudo i ddeng mlynedd o garchar efo llafur caled. Er na wyddai'r awdurdodau am ei genhadaeth dros y frawdoliaeth, penderfynodd yr awdurdodau i drin teuluoedd y gwrthryfelwyr yn hallt. Collodd yr Iarll ei swydd, cafodd ei ddiarddel o Gymdeithas Frenhinol Dulyn a chafodd ef a'r Iarlles eu halltudio i Rydychen; llwyddodd y ffordd triniwyd ef a'i deulu i'w radacaleiddio a fu'n gweriniaethwr brwd a phybyr am weddill ei oes. <ref>Gallway Advertiser A young girl carried the scars of war [http://www.advertiser.ie/galway/article/78914/a-young-girl-carried-the-scars-of-war] adalwyd 20 Mawrth 2016</ref>