Castell Penarlâg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Wrong date
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 212.159.68.133 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Ham II.
Llinell 4:
Ni wyddom ddim am hanes cynnar y safle ond cofnodir [[castell mwnt a beili]] Normanaidd yno mewn cofnod Seisnig o 1205.<ref>Helen Burnham, ''Clwyd and Powys''. Ancient and Historic Wales. (Cadw/HMSO, 1995), tud. 195.</ref> Cipiwyd y castell a'i ddinistrio gan y Tywysog [[Llywelyn ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]] yn 1265.<ref>[[R. R. Davies]], ''The Age of Conquest: Wales 1063-1415'' (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1991), tud. 315.</ref> Ailadeiladwyd y castell gan [[Edward I o Loegr]] yn 1277 fel rhan o gyfres o gestyll Seisnig yng ngogledd-ddwyrain Cymru gyda'r bwriad o ostwng y Cymry.<ref>''The Age of Conquest: Wales 1063-1415'', tud. 338.</ref>
 
Fe'i cipiwyd a'i dinistrio gan [[Dafydd ap Gruffudd]], brawd Llywelyn ap Gruffudd, mewn ymosod nos ar 2221 Mawrth 1282, gweithred a fu'n un o symbylau Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru.<ref>Paul R. Davies, ''Castles of the Welsh Princes'' (Abertawe, 1988), tud. 18.</ref> Mae'n debyg mai o [[Castell Caergwrle|Gastell Caergwrle]], castell Cymreig a godwyd mewn ymateb i godi Castell Penarlâg, y gweithredodd Dafydd.<ref>''Castles of the Welsh Princes'', tud. 31.</ref>
 
Cipwyd y castell gan y Cymry unwaith eto yn 1294 yn nyddiau cynnar gwrthryfel [[Madog ap Llywelyn]].<ref>''The Age of Conquest: Wales 1063-1415'', tud. 383.</ref>